FCA Firm Checker

Our new tool for consumers makes it easier to check if a firm is authorised and has permission for the service it's offering you.

Rhestr Rhybuddion FCA o gwmnïau anawdurdodedig

Chwiliwch ein Rhestr Rhybuddion i ddod o hyd i fanylion cwmnïau ac unigolion anawdurdodedig yr ydym yn ymwybodol ohonynt nad oes caniatâd ganddynt i weithredu yn y DU.

First published: 20/03/2023 Last updated: 12/05/2026 See all updates

Rhaid i bron pob cwmni ariannol yn y DU gael ei awdurdodi neu ei gofrestru gennym ni.

Yn anffodus, mae yna gwmnïau yn parhau i weithredu heb ein hawdurdodiad.

Gallwch ddefnyddio'r Gwiriwr Cwmnïau FCA i ddarganfod os yw cwmni wedi'i awdurdodi a gyda chaniatâd ar gyfer y gwasanaeth y mae'n ei gynnig i chi. 

Os na allwch ddod o hyd i gwmni ar y Gwiriwr Cwmnïau, cysylltwch â ni ar 0800 111 676.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn delio â chwmnïau awdurdodedig yn unig. Os ydych chi'n delio â chwmni anawdurdodedig, ni fyddwch yn cael eich gwarchod gan y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol os ydych am gwyno. Ni fyddwch chwaith yn cael eich diogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) os yw'r cwmni yn mynd allan o fusnes. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol y byddech chi'n cael eich arian yn ôl.

Os gwnaethoch anfon arian at dwyllwr ar neu ar ôl 7 Hydref 2024, efallai y cewch eich gwarchod gan amddiffyniadau a gyflwynwyd gan y Rheoleiddiwr Systemau Talu (PSR). Dewch o hyd i beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich twyllo i wneud taliad i gyfrif sgam.

Chwilio'r Rhestr Rybuddion

Mae ein Rhestr Rhybuddion yn rhestru cwmnïau yr ydym yn pryderu eu bod yn gweithio heb ein caniatâd.

Rydym yn ychwanegu cwmnïau at y rhestr hon cyn gynted â phosibl. Ond os nad yw cwmni ar y rhestr, mae’n dal yn bosib iddo fod yn anawdurdodedig neu yn sgam. Mae cwmnïau anawdurdodedig yn aml yn newid eu henwau, ac efallai nad ydym yn ymwybodol ohono eto.

I ddefnyddio'r rhestr, gallwch: 

  • Chwilio am gwmni anawdurdodedig gan ddefnyddio'r bar chwilio.
  • Hidlo canlyniadau yn ôl llythyren gyntaf enw’r cwmni.
  • Cliciwch ar y golofn 'Name' i drefnu’r cwmnïau ar sail A i Z.
     

Os ydych chi'n delio â chwmni tramor, edrychwch ar y rhestr o rybuddion gan reoleiddwyr tramor.

Tanysgrifiwch i'r porth RSS am ddiweddariadau rheolaidd

 News Warning Feed RSS Rhybuddion RSS

Search results update instantly to match the search query and any filters applied.

Sort by first character

Displaying 1 - 25 of 18138

Sut i amddiffyn eich hun

Byddwch yn wyliadwrus o sgamwyr sy'n esgus bod o gwmnïau awdurdodedig. Gallent fod yn gwmni clôn (fersiwn ffug o gwmni dilys). Os bydd busnes ariannol yn cysylltu â chi'n annisgwyl, gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y Gwiriwr Cwmnïau.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam, rhowch wybod i ni ar-lein. Rydym yn ymchwilio i bob adroddiad a dderbyniwn, ac fe allai helpu i amddiffyn eraill rhag twyllwyr.

Dysgwch fwy am sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau.

: Editorial amendment translation reviewed and updated.
: Editorial amendment Small changes under 'Chwiliwch ar y Rhestr Rybuddion'