FCA Firm Checker

Our new tool for consumers makes it easier to check if a firm is authorised and has permission for the service it's offering you.

Amddiffyn eich hun rhag sgamiau

Gall sgamiau fod yn soffistigedig, os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg y bydd. Darganfyddwch sut i adnabod yr arwyddion rhybudd o ran buddsoddi, pensiynau a sgamiau ariannol eraill.

First published: 20/03/2023 Last updated: 23/04/2026 See all updates
Byddwch yn ofalus rhag sgamwyr sy'n esgus bod o'r FCA. Ni fyddwn byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian atom nac yn gofyn am eich rhif adnabod PIN a'ch cyfrineiriau cyfrif banc. Darganfyddwch sut i adnabod cyfathrebiadau FCA ffug, y tactegau a’r dulliau cyswllt y mae sgamwyr yn eu defnyddio.

Adnabod yr arwyddion rhybudd

Gall sgamiau fod yn anodd eu hadnabod. Gall twyllwyr fod yn gredadwy ac yn wybodus, gyda gwefannau a deunyddiau sy'n edrych yr un fath â'r rhai go iawn.

Ond os ydych chi wedi cael cyswllt annisgwyl, neu os ydych chi'n amheus o alwad neu neges destun, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n oedi ac yn gwirio am yr arwyddion rhybudd.

  • A yw’r alwad yn annisgwyl? Mae sgamwyr yn aml yn galw heb rybydd. Efallai y byddant hefyd yn ceisio cysylltu â chi trwy e-bost, neges destun, post, cyfryngau cymdeithasol, neu hyd yn oed yn bersonol.
  • Ydych chi'n teimlo dan bwysau i weithredu'n gyflym? Efallai y bydd sgamwyr yn cynnig bonws neu ostyngiad i chi os ydych chi'n buddsoddi'n gyflym, neu efallai y byddant yn dweud bod y cyfle dim ond ar gael am gyfnod byr yn unig.
  • Ydy'r cynnig yn swnio'n rhy dda i fod yn wir? Mae twyllwyr yn aml yn addo gwobrau yn demtasiwn, fel enillion uchel ar fuddsoddiad.
  • Ydy’r cynnig ar eich cyfer chi yn unig? Efallai y bydd sgamwyr yn honni eich bod wedi cael eich dewis yn arbennig ar gyfer cyfle buddsoddi, a dylid ei gadw'n gyfrinach.
  • Ydyn nhw'n ceisio eich seboni? Mae sgamwyr yn aml yn ceisio adeiladu cyfeillgarwch gyda chi er mwyn eich gwneud yn gyfforddus.
  • Ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n gyffrous? Gall twyllwyr geisio dylanwadu ar eich emosiynau i'ch cael chi i weithredu.
  • Ydyn nhw'n siarad ag awdurdod? Efallai y bydd sgamwyr yn honni eu bod wedi'u hawdurdodi ac yn aml yn ymddangos yn wybodus am gynhyrchion ariannol.

Os gwnaethoch ateb 'ydw’ neu ‘ydy' i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, neu os nad ydych yn siŵr a yw cyswllt yn ddilys, dilynwch y camau isod i amddiffyn eich hun.

Gwiriwch y cwmni

  1. 1

    Defnyddiwch Gwiriwr Cwmnïau FCA

    Rhaid i bron pob cwmni gwasanaethau ariannol yn y DU fod wedi'i awdurdodi neu ei gofrestru gennym ni. I ddarganfod os yw cwmni neu unigolyn wedi'i awdurdodi, gallwch chwilio'r Gwiriwr Cwmnïau.

    Gwiriwch fod rhif cyfeirnod y cwmni (FRN) a'r manylion cyswllt a roddwyd i chi yn cyfateb i'r manylion ar y Gwiriwr Cwmnïau.

    Os nad oes unrhyw fanylion cyswllt wedi'u rhestru ar y Gwiriwr Cwmnïau, neu os yw'r cwmni yn dweud fod y wybodaeth wedi dyddio, ffoniwch ni ar 0800 111 6768.

    Cofiwch, mae rhai cwmnïau yn esgus bod yn gwmnïau awdurdodedig, felly defnyddiwch y manylion cyswllt ar y Gwiriwr Cwmnïau bob amser.

    Defnyddiwch gyfeiriad y wefan uchod bob amser i ymweld â'r Gwiriwr Cwmniau. Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni mewn e-byst neu ar wefannau cwmni. Gallai fod yn rhan o'r sgam.

  2. 2

    Cysylltu â ni

    Os ydych chi'n cael trafferth gwirio manylion cwmni ariannol neu unigolyn, darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

    Gall ein tîm wirio'r manylion a roddwyd i chi a dweud wrthych os yw'r cwmni yn ddilys.

Sut i amddiffyn eich hun

Cofiwch:

  • Ymdrin a phob galwad, e-bost a neges testun annisgwyl yn ofalus. Peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn ddilys, hyd yn oed os yw'r person yn gwybod rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi.
  • Rhoi’r ffôn lawr ac anwybyddu negeseuon os ydych chi'n teimlo dan bwysau i weithredu'n gyflym. Bydd banc neu fusnes go iawn yn hapus i aros os ydych chi eisiau amser i feddwl.
  • Gwirio eich cyfrif banc a datganiadau cerdyn credyd yn rheolaidd.
  • Ystyried cael cyngor neu arweiniad ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad ariannol mawr (mae gan HelpwrArian wybodaeth am sut i ddod o hyd i gynghorydd ariannol).
  • Gwirio reoleiddwyr tramor os ydych chi'n delio â chwmni tramor (dylech hefyd wirio'r rhestr o rybuddion sgam gan reoleiddwyr tramor).

Peidiwch:

  • Rhoi eich manylion cyfrif banc neu gerdyn credyd oni bai eich bod yn siŵr gyda phwy rydych chi'n delio.
  • Rhannu eich cyfrineiriau gydag unrhyw un (gan gynnwys eich cyfrineiriau cyfryngau cymdeithasol).
  • Rhoi mynediad i'ch dyfais trwy lawrlwytho meddalwedd neu ap o ffynhonnell nad ydych chi'n ymddiried ynddo. Efallai y bydd sgamwyr yn gallu cymryd rheolaeth o'ch dyfais a chael mynediad at eich cyfrif banc.

Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich sgamio

Rhowch wybod i ni amdano

Os ydych chi'n poeni am sgam posibl, neu os ydych chi'n meddwl y gallai twyllwr gysylltu â chi, rhowch wybod i ni. Gallai hyn helpu i atal eraill rhag dioddef yr un drosedd.

Ffoniwch ni ar 0800 111 6768 neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt i gysylltu â ni.

Ar gyfer unrhyw beth nad ydym yn ei reoleiddio, neu os ydych wedi colli arian i sgam, cysylltwch â Report Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy eu gwefan.

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau yn y dyfodol

Mae'n bwysig bod yn ofalus iawn os ydych chi eisoes wedi cael eich twyllo. Gallai twyllwyr geisio eich targedu eto, neu efallai y byddant yn gwerthu eich manylion i droseddwyr eraill.

Gallai'r sgam newydd fod yn hollol wahanol, neu gallai fod yn gysylltiedig â'r twyll blaenorol. Er enghraifft, gallent gysylltu â chi gyda chynnig i gael eich arian yn ôl neu i brynu buddsoddiad yn ôl wedi i chi dalu ffi. Mae’r rhain yn cael eu galw yn sgamiau ystafell adfer (recovery room scam).

Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl am sgam ariannol posibl, cysylltwch â ni ar unwaith.

: Editorial amendment translation reviewed and updated.