FCA Firm Checker

Our new tool for consumers makes it easier to check if a firm is authorised and has permission for the service it's offering you.

Sut i gwyno

Os ydych chi'n anhapus â chynnyrch neu wasanaeth ariannol, darganfyddwch sut i gwyno a phryd y dylech gysylltu â’r Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

First published: 20/03/2023 Last updated: 31/03/2026 See all updates

Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan fusnes ariannol, neu os ydych chi'n anhapus â gwasanaeth ariannol, mae gennych yr hawl i gwyno.

Er y gall cwyno deimlo'n frawychus, mae ein rheolau yn golygu bod rhaid i gwmnïau ddelio â'ch cwyn yn deg, yn gyson ac yn brydlon. Ac os ydych chi'n anhapus â'u hymateb, gallwch gwyno i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

  1. 1

    Cysylltwch â'r cwmni

    Mae’n rhaid i'r cwmnïau rydyn ni'n eu hawdurdodi gael proses yn ei le ar gyfer datrys cwynion.

    Felly, os ydych chi'n anhapus â chynnyrch neu wasanaeth ariannol, cysylltwch â'r cwmni. Dywedwch wrthyn nhw beth ddigwyddodd a phryd, a gofynnwch iddyn nhw gywiro pethau. Gwnewch gofnod o sut a phryd y gwnaethoch chi gysylltu â nhw.

    Fel arfer mae angen i chi gwyno o fewn 6 blynedd i'r broblem ddigwydd neu, os yn ddiweddarach, o fewn 3 blynedd i chi ddod yn ymwybodol bod gennych reswm i gwyno.

    Gallwch wirio'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol i wneud yn siŵr bod cwmni wedi’i awdurdodi.

  2. 2

    Ymateb

    Oni bai eu bod yn datrys eich cwyn o fewn 3 diwrnod busnes, rhaid i bob cwmni ymateb yn ysgrifenedig i roi gwybod i chi eu bod wedi derbyn eich cwyn.

    Yn gyffredinol, rhaid i gwmnïau gysylltu â chi yn ysgrifenedig i roi gwybod i chi beth yw canlyniad eich cwyn o fewn 8 wythnos. Rhaid iddynt ddweud wrthych a yw eich cwyn wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, neu pam bod angen mwy o amser arnynt i ymchwilio.

    Darparwyr gwasanaethau talu neu ddarparwyr e-arian

    Fel arfer, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau talu a darparwyr e-arian ymateb i gwynion penodol o fewn 15 diwrnod busnes. Os na allant gynnig ymateb terfynol, rhaid iddynt esbonio'r rhesymau dros yr oedi.

    Yna rhaid i chi gael ymateb terfynol o fewn 35 diwrnod busnes o'r diwrnod y gwnaethoch y gwnaethoch y gŵyn gyntaf.

  3. 3

    Cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

    Os ydych chi'n anhapus â phenderfyniad y cwmni, neu os nad ydych chi'n clywed ganddynt o fewn yr amserlen gywir, efallai bydd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn gallu helpu. 

    Darganfyddwch os ydynt yn gallu gwneud hynny trwy ddefnyddio eu gwiriwr cwynion ar-lein.

    Mae'r Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth annibynnol am ddim ar gyfer datrys anghydfodau rhwng cwmnïau gwasanaethau ariannol a'u cwsmeriaid. Gall ddelio â chwynion am ystod eang o faterion, o yswiriant anifeiliaid anwes i stociau a chyfranddaliadau.

    Ar ôl i chi gysylltu â nhw, bydd y tîm yn yr Ombwdsmon Ariannol yn siarad â'r cwmni ac yna'n penderfynu a ddylai eich cwyn gael ei gynnal.

    Os ydynt yn penderfynu o'ch plaid, ac rydych chi'n cytuno â'r telerau, rhaid i'r cwmni gydymffurfio â'r penderfyniad. Os nad yw'r cwmni yn cydymffurfio â'r penderfyniad, dylech gysylltu â'r Ombwdsmon Ariannol.

    Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Ombwdsmon Ariannol o fewn 6 mis ar ôl derbyn ymateb terfynol gan y cwmni, neu efallai na fyddant yn gallu helpu.

Mynd â'r mater i'r llys

Os nad ydych yn cytuno gyda penderfyniad yr Ombwdsmon Ariannol, ac nad ydych wedi defnyddio cynllun cwynion annibynnol, efallai y byddwch yn gallu mynd â'ch achos i'r llys. Ond ni fydd hyn bob amser yn opsiwn. 

Fel arfer, byddech yn dechrau achos cyfreithiol sifil yn y llysoedd sirol neu'r Uchel Lys (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon), yn dibynnol ar yr achos. Yn yr Alban, mae'r rhan fwyaf o hawliadau bach yn cael eu cychwyn yn y Llysoedd Siryf.

Defnyddio cwmni rheoli hawliadau (CMC)

Mae'n rhad ac am ddim i wneud cwyn eich hun. Gallwch hefyd gael help gan sefydliadau fel HelpwrArian os ydych chi'n pryderu. Gall CMCs wneud cwyn ar eich rhan, ond byddant yn codi ffi am y gwasanaeth.

Os byddwch yn penderfynu ddefnyddio CMC, dylech ddarganfod faint yw eu ffi a phenderfynu a ydych chi'n fodlon cael yr arian hwnnw wedi'i dynnu o'ch iawndal.

Darganfyddwch fwy am ddefnyddio CMCs.

: Editorial amendment translation reviewed and updated.
: Editorial amendment Small updates to introduction and 'Take the matter to court'