FCA Firm Checker

Our new tool for consumers makes it easier to check if a firm is authorised and has permission for the service it's offering you.

Sut i wirio bod cwmni neu unigolyn wedi'i awdurdodi

Darganfyddwch pryd y dylech ddefnyddio'r Gwiriwr Cwmnïau FCA neu'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, beth mae'n ei olygu os ydych yn defnyddio cynrychiolydd penodedig, a beth i'w wneud os nad yw cwmni wedi'i awdurdodi.

First published: 22/09/2026 Last updated: 25/09/2026 See all updates

Yn y DU, mae'n rhaid i bron pob cwmni sy’n darparu gwasanaethau ariannol gael eu hawdurdodi neu eu cofrestru gennym ni.

Mae bod yn awdurdodedig yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau fodloni safonau penodol a chael ein caniatâd i ddarparu rhai cynhyrchion a gwasanaethau.

Mae bod yn gofrestredig yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau fodloni gofynion penodol, ond ni allant ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau wedi’u rheoleiddio sydd angen awdurdodiad. Os ydych yn defnyddio cwmni sydd wedi’i gofrestru ond heb ei awdurdodi, mae’n annhebygol y bydd gennych amddiffyniad gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) os bydd y cwmni’n mynd allan o fusnes, neu fynediad at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol os ydych chi eisiau cwyno.

Weithiau, bydd angen i unigolion sy'n gweithio mewn cwmnïau ariannol gael eu cymeradwyo gennym ni neu eu hardystio gan gwmni i gyflawni gweithgareddau ariannol hefyd.

Sut i wirio cwmni

Defnyddiwch y Gwiriwr Cwmnïau FCA cyn i chi brynu cynnyrch neu wasanaeth ariannol, fel morgais, yswiriant neu gynllun angladd, er enghraifft.

Gwiriwch gwmni >

Bydd y Gwiriwr Cwmni yn dweud wrthych os yw’r cwmni wedi’i awdurdodi ac os oes ganddo ein caniatâd i werthu’r cynnyrch neu'r gwasanaeth i chi. Bydd gwirio cwmni cyn i chi ei ddefnyddio yn eich helpu i osgoi sgamiau ac yn rhoi’r cyfle gorau i chi gael eich diogelu os aiff rhywbeth o’i le.

Os nad yw cwmni wedi’i awdurdodi neu os nad oes ganddo ganiatâd ar gyfer y gwasanaethau ariannol rydych chi’n chwilio amdanynt, dylech osgoi ymwneud ag ef.

Pam y dylech ddefnyddio cwmnïau awdurdodedig

Mae defnyddio cwmni awdurdodedig, gyda’r caniatâd cywir, yn lleihau’r risg o niwed yn sylweddol. Ni fydd yn dileu pob risg.

Os byddwch yn ymwneud â chwmni anawdurdodedig, neu sydd heb ganiatâd ar gyfer y gweithgareddau sydd eu hangen arnoch, ni fydd gennych fynediad at yr Ombwdsmon Ariannol os byddwch eisiau cwyno.

Ni fyddwch chwaith yn cael eich diogelu gan yr FSCS os bydd y cwmni yn mynd allan o fusnes. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol y byddech yn cael eich arian yn ôl.

Beth yw wneud os yw cwmni heb ei awdurdodi

Mae rhai cwmnïau gwasanaethau ariannol yn gweithio heb ein hawdurdodiad. Mae hyn yn erbyn y gyfraith.

Dylech ddim ond ymwneud â chwmnïau gwasanaethau ariannol sydd wedi’u hawdurdodi neu eu cofrestru gennym ni. Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich targedu gan gwmni anawdurdodedig, rhowch wybod i ni.

Os ydym wedi cyhoeddi rhybudd am gwmni anawdurdodedig, bydd hyn yn ymddangos ar y Gwiriwr Cwmnïau a’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol pan fyddwch yn chwilio am y cwmni.

Gall rhai cwmnïau anawdurdodedig fod yn gwmnïau clôn. Mae cwmni clôn yn gopi o gwmni dilys, awdurdodedig. Fel rhan o sgam cwmni clôn, mae twyllwyr yn honni eu bod yn gweithio i gwmni awdurdodedig er mwyn eich twyllo. Er mwyn amddiffyn eich hun, gwnewch yn siŵr bod y manylion cyswllt a gawsoch ar gyfer y cwmni yn cyfateb i’r rhai sydd ar y Gwiriwr Cwmnïau.

Ar gyfer rhestr lawn o’r cwmnïau rydym wedi cyhoeddi rhybuddion amdanynt, gallwch edrych drwy ein Rhestr Rybuddion.

Cwmnïau nad ydynt yn awdurdodedig mwyach, neu gwmnïau wedi’u dirymu

Ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, os gwelwch gwmni sy'n ymddangos fel 'No longer authorised’ neu ‘Revoked’ mae’n golygu bod awdurdodiad y cwmni wedi’i ganslo ac y dylech osgoi ymwneud ag ef.

Ni fydd y cwmnïau hyn yn ymddangos ar y Gwiriwr Cwmnïau oni bai eu bod yn cael eu hawdurdodi eto.

Cynhyrchion a gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac nad ydym yn eu rheoleiddio

Mae cwmnïau ariannol yn cynnig ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau, rhai ohonynt rydym yn eu rheoleiddio, a rhai ohonynt nad ydym yn eu rheoleiddio.

Gall gwmnïau rydym yn eu hawdurdodi gynnig cynhyrchion a gwasanaethau wedi’u rheoleiddio, a heb eu rheoleiddio. Ond mae gennym bwerau mwy cyfyngedig dros gynhyrchion a gwasanaethau heb eu rheoleiddio.

Isod rydym wedi rhestru rhai mathau cyffredin o gynhyrchion a gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac nad ydym yn eu rheoleiddio. 

Darganfyddwch fwy am wasanaethau ariannol gan gynnwys morgeisi, benthyca arian, yswiriant a chyfrifon banc drwy ymweld â HelpwrArian. 

Gwybodaeth am y cwmni a manylion cyswllt

Ar y Gwiriwr Cwmnïau a’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, rydym yn nodi a yw cwmnïau wedi’u hawdurdodi neu wedi’u cofrestru, a pha gynhyrchion a gwasanaethau y caniateir iddynt eu cynnig.

Ond mae manylion cyswllt y cwmni yn cael eu darparu a’u cadarnhau gan y cwmni. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw cofrestredig y cwmni ac enwau masnachu eraill. 
  • Prif leoliad y busnes. 
  • Manylion cyswllt ar gyfer cwynion. 
  • Cynrychiolwyr penodedig (os yw’n berthnasol).

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o’r cwmnïau rydym yn eu hawdurdodi ddiweddaru neu gadarnhau eu gwybodaeth gyswllt, o leiaf unwaith y flwyddyn.

Byddwch yn gallu gweld a yw cwmni wedi cadarnhau ei fanylion cyswllt ar y Gwiriwr Cwmnïau a’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol. Bydd prif gwmnïau yn gwneud hyn ar ran eu cynrychiolwyr penodedig.

Cynrychiolwyr penodedig ac asiantiaid

: Editorial amendment bolded 'hawdurdodi' to match English page.