Eich hawliau gyda gwasanaethau ariannol

Mae eich hawliau fel defnyddiwr yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Darganfyddwch beth i'w ddisgwyl gan eich darparwyr, a lle gallwch fynd os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.

A woman is smiling while scrolling on her iPad
A woman is smiling while scrolling on her iPad
First published: 20/03/2023 Last updated: 23/08/2023 See all updates

Yn yr FCA, rydym yn gweithio i sicrhau bod cwmnïau ariannol yn eich trin yn deg ac yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n diwallu eich anghenion.

Yn y DU, rhaid i bron i bob darparwr gwasanaeth ariannol gael ei awdurdodi neu ei gofrestru gennym ni.

O fanciau a chymdeithasau adeiladu, i gwmnïau sy'n cynnig morgeisi, cardiau credyd, cynlluniau angladdau, benthyciadau, cynilion, pensiynau a buddsoddiadau.

Mae'n rhaid i'r cwmnïau awdurdodedig hyn gyrraedd ein safonau ni a dilyn ein rheolau.

O’r 31ain Gorffennaf 2023, bydd rhaid i bob cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ar werth gwrdd â rheolau’n Dyletswydd Defnyddwyr. Mae’r Ddyletswydd yn gosod safon uwch o warchodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau ariannol.

Mae hyn yn golygu y dylech ddisgwyl:

  • y cymorth rydych chi ei angen, pan rydych chi ei angen
  • cyfathrebu rydych chi’n  ei deall
  • cynnyrch a gwasanaethau sy’n bodloni’ch anghenion a sy’n cynnig gwerth teg

Ar gyfer cynnyrch hŷn sydd ddim ar werth mwyach, bydd rheolau’r Ddyletswydd yn berthnasol o’r 31ain Gorffennaf 2024.

Gallwch wirio ein Cofrestr Gwasanaethau Ariannol i wneud yn siŵr bod cwmni wedi’i awdurdodi a bod ganddo ganiatâd am y gwasanaeth mae'n ei gynnig i chi. 

Byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i:

  • Wybodaeth am sut rydych wedi'ch diogelu
  • Manylion cyswllt ar gyfer cwmnïau awdurdodedig

Eich diogelu os aiff rhywbeth o'i le

Os ydych chi'n defnyddio cwmni awdurdodedig, rydych chi'n llawer mwy tebygol o gael eich diogelu os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.

Os ydych yn anhapus â chynnyrch neu wasanaeth ariannol, mae gennych hawl i gwyno. Yn y lle cyntaf, dylech ofyn i'ch darparwr gywiro pethau. Ond os ydych yn anhapus gyda'u hymateb nhw, gallwch wneud cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

Er enghraifft, efallai y byddwch eisiau cwyno os:

  • gwerthir cynnyrch i chi nad yw’n cwrdd â’ch anghenion
  • oes angen cymorth arnoch, ond ni allwch gysylltu â’r cwmni
  • oes tâl yn cael ei godi arnoch chi nad ydych chi’n gwybod amdano
  • ydych chi’n cael gwybodaeth gan gwmni nad ydych chi’n ei ddeall, fel llythyr, dogfen polisi yswiriant, neu wybodaeth ar wefan y cwmni

At hynny, os yw eich darparwr gwasanaeth ariannol yn mynd allan o fusnes, gall y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) gamu i'r adwy i dalu iawndal.

Ond os nad ydych chi'n siŵr sut rydych wedi’ch diogelu, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofyn i'ch darparwr gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y Gofrestr FS.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae'n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth ariannol wahaniaethu yn eich erbyn. Er enghraifft, i'ch trin chi'n wahanol oherwydd eich hil, rhyw, anabledd neu rywioldeb.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor, gallwch gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Os ydych chi'n anabl, efallai y bydd gennych hawl i addasiadau rhesymol wrth ymdrin â darparwyr, i'ch helpu i ddefnyddio eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau.

Er enghraifft, gallai darparwr wneud newidiadau i gangen banc i'ch helpu i gael mynediad. Neu efallai y byddan nhw'n cyfathrebu â chi mewn fformat fel Iaith Arwyddion Prydain neu braille.

Pobl mewn amgylchiadau bregus

Mae rhai pobl yn arbennig o fregus wrth ymdrin â gwasanaethau ariannol. Gallai hyn fod oherwydd:

  • problemau iechyd
  • digwyddiadau mawr bywyd (fel profedigaeth neu dor-perthynas)
  • dim llawer o wybodaeth am wasanaethau ariannol
  • incwm isel

Efallai bod gan yr unigolion hyn anghenion gwahanol, a dylai darparwyr wneud yn siŵr bod y canlyniadau maen nhw’n eu cael gystal â’r rhai sy’n cael eu profi gan ddefnyddwyr eraill. 

Os ydych yn teimlo nad yw darparwr wedi cyrraedd y safon hon, mae gennych hawl i gwyno.

Adrodd am arfer gwael

Os ydych chi'n dod ar draws sgam ariannol, hysbyseb ariannol camarweiniol neu gontract ariannol sy'n ymddangos yn annheg, gallwch adrodd i ni am hyn.

Sgamiau

Yn yr FCA, rydym yn canolbwyntio ar sgamiau sy'n ymwneud â gwasanaethau ariannol, ond mae help ar gael ar gyfer mathau eraill o sgamiau hefyd. 

ActionFraud yw'r ganolfan adrodd genedlaethol ar gyfer pobl sydd wedi cael eu sgamio, eu twyllo neu wedi dioddef troseddau seibr.

Hysbysebion ariannol camarweiniol

Rhaid i bob hysbyseb a hyrwyddiad ariannol fod yn deg, yn glir ac ni ddylent gamarwain. Mae’r Ddyletswydd Defnyddwyr yn atgyfnerthu y safonau hyn gan ddatgan y dylech dderbyn cyfathrebiadau rydych yn eu deall.

Os ydych chi’ngweld hysbyseb yr ydych chi'n meddwl sy'n gamarweiniol, dylech roi gwybod i ni.

Telerau contract annheg neu aneglur

Fel gyda hyrwyddiadau, rhaid i gwmnïau ariannol bob amser ddarparu contractau sy'n glir ac yn deg. Ni allant orfodi telerau arnoch chi sydd ddim yn glir ac yn deg.

Dysgwch sut i adnabod ac adrodd am delerau contract annheg i ni.

Help cyfrinachol, am ddim gydag arian

Gall pawb gael cymorth cyfrinachol am ddim gydag arian.

Mae MoneyHelper yn wasanaeth sy'n cael ei gefnogi gan y llywodraeth sy'n rhoi arweiniad ar amrywiaeth o faterion ariannol. Gall y tîm hefyd eich helpu i gael cyngor am ddim ar bryderon am arian yn ogystal â phensiynau.

: Information added about the Consumer Duty