Gohebiaeth ffug FCA

Mae twyllwyr weithiau'n esgus gweithio i ni, felly mae'n bwysig gwirio os ydych chi'n ansicr. Dysgwch sut i adnabod negeseuon e-bost, galwadau ffôn, a gwefannau FCA ffug.

First published: 20/03/2023 Last updated: 20/03/2023

Bydd sgamwyr yn rhoi cynnig ar unrhyw beth i'ch cael chi i drosglwyddo gwybodaeth bersonol bwysig, efallai y byddan nhw hyd yn oed yn dweud eu bod yn gweithio i ni.

Efallai y cewch e-bost, llythyr neu alwad ffôn gan rywun sy'n honni ei fod o'r FCA. Mae’n bosib y byddant yn defnyddio enw gweithiwr, ein logo, neu ddelweddau eraill o'n gwefan, i wneud i chi feddwl bod yr ohebiaeth yn ddilys.

Mae’n bosib y byddant hefyd yn honni eu bod o’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), y sefydliad a oedd yn arfer rheoleiddio gwasanaethau ariannol yn y Deyrnas Unedig.

Pryd y gallwn ni gysylltu â chi

Ar adegau prin, efallai y byddwn yn eich ffonio os ydym yn credu y gallwch helpu  mewn ymchwiliad.

Ar yr achlysuron hyn, efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai manylion personol, gan gynnwys eich manylion cyswllt. Ond os ydych chi'n poeni am bwy rydych chi'n siarad â nhw, cysylltwch â'n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr. Fydd dim ots gan ein tîm aros i chi wirio.

Sut mae gohebiaeth FCA ffug yn gweithio

Gall sgamwyr ofyn i chi am wybodaeth bersonol, fel copïau o'ch slipiau cyflog neu basport, manylion cyfrif banc neu gyfrineiriau bancio ar-lein. 

Mae’n bosib y byddant yn honni:

  • bod arnoch chi arian i ni
  • bod gennych hawl i arian, a bod angen manylion eich cyfrif banc arnom i wneud y taliad
  • ein bod yn ymchwilio i'ch banc neu ddarparwr arall, a’n bod angen i chi symud eich arian i gyfrif arall am resymau diogelwch 

warning iconMae'n bwysig cofio na fydden ni byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i ni. Ni fyddem ’chwaith byth yn gofyn am wybodaeth bancio sensitif, fel PINs a chyfrineiriau cyfrifon banc.

Sut i adnabod gohebiaeth FCA ffug

Chwiliwch am arwyddion efallai nad yw'r e-bost, y llythyr neu’r alwad ffôn gennym ni.

  • Gallai galwadau ffôn fod o rif symudol neu dramor.
  • Gallai cyfeiriad e-bost fod o gyfrif Hotmail, Outlook neu Gmail.
  • Gallai gohebiaeth gynnwys camgymeriadau sillafu a gramadeg gwael.
  • Gallai cyfeiriadau gwefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol gynnwys newidiadau mân iawn neu atalnodi ychwanegol.

Ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio nifer o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth gyda chwmnïau ac unigolion. Ond gall sgamwyr greu cyfrifon sy'n edrych yn debyg iawn i'n cyfrifon ni.

Dyma ein cyfrifon dilys:

Rydym hefyd yn defnyddio TikTok ac Instagram ar gyfer gweithgarwch ymgyrchoedd a hysbysebion o bryd i'w gilydd.

Os welwch chi gyfrif cyfryngau cymdeithasol arall yn honni ein cynrychioli ni, mae'n debyg ei fod yn sgam.

Negeseuon e-bost FCA

Rydym yn anfon e-byst o gyfeiriadau sy'n diweddu gyda:

  • @fca.org.uk
  • @fcanewsletters.org.uk
  • @fcamail.org.uk

Mae gennym fesurau yn eu lle i atal twyllwyr rhag copïo a defnyddio ein cyfeiriadau e-bost. Ond mae’n bosib y byddant yn defnyddio cyfeiriadau e-bost tebyg i wneud i'w e-bost ymddangos yn ddilys.

Os yw e-bost yn edrych yn amheus, dylech ei ddileu heb ei agor.

Fersiynau ffug o'n gwefannau

Mae’n bosib y bydd twyllwyr yn copïo'n gwefannau a newid y wybodaeth. Mae’n bosib y byddant yn newid ein tudalennau rhybuddion fel ei bod hi’n edrych bod cwmnïau sgam wedi'u hawdurdodi gennym.

Gall y gwefannau hyn sydd wedi’u clonio fod yn argyhoeddiadol iawn, gyda dolenni a gwybodaeth gyswllt wedi'u copïo o'n gwefan go iawn.

I wneud yn siŵr bod gwefan yn ddilys, dylech wirio'r cyfeiriad (URL) sy'n ymddangos yn y bar cyfeiriad ar frig y dudalen we. 

Os ydych chi ar ein gwefan ni, dylai bob amser ddechrau gyda https://www.fca.org.uk neu https://register.fca.org.uk/s/ ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.

Galwadau ffug

Gall sgamwyr wneud i’n rhifau switsfwrdd – 020 7066 1000, 0300 500 8082 a 0800 111 6768 – ymddangos yn eich ID galwr. Gelwir hyn yn 'number spoofing'.

Er mwyn diogelu eich hun, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol yn dilyn galwad sydd wedi dod i mewn a pheidiwch â ffonio’n ôl gan ddefnyddio'r manylion cyswllt y mae'r galwyr yn eu darparu.

Os ydych chi'n amheus am alwad, rhowch y ffôn i lawr. Gallwch wirio i sicrhau bod galwad gennym yn ddilys trwy gysylltu â'n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768.

Mwy o sgamiau cyfathrebu ffug

Mae’n bosib y bydd twyllwyr yn honni eu bod yn dod o fudiadau eraill, megis:

Cofiwch, os ydych chi'n amheus am unrhyw alwad, e-bost neu neges destun yr ydych wedi'i dderbyn, peidiwch ag ymateb nes eich bod wedi gwirio a ydyn nhw'n ddilys.

Dylech hefyd fod yn wyliadwrus o negeseuon e-bost neu alwadau sy'n honni eu bod o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Am fwy o wybodaeth, gweler enghreifftiau CThEF o e-bost gwe-rwydo.

Rhoi gwybod am ohebiaeth FCA ffug

Os ydych yn poeni am dwyll posib neu os ydych yn credu y gallai twyllwr fod wedi cysylltu â chi, rhowch wybod i ni.

Cysylltwch â'n Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768 neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt.