Sut i gwyno

Os ydych yn anhapus â chynnyrch neu wasanaeth ariannol, darganfyddwch sut i gwyno a phryd y dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

First published: 20/03/2023 Last updated: 23/08/2023 See all updates

Os ydych yn teimlo fel eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan fusnes ariannol, neu os ydych yn anhapus â gwasanaeth ariannol, mae gennych hawl i gwyno.

Gall gwyno wrth gwmni ariannol deimlo'n frawychus, ond mae ein rheolau yn golygu fod rhaid i gwmnïau ddelio â’ch cwyn yn deg, yn gyson ac yn brydlon. Ac os ydych yn anhapus gyda’u hymateb, gallwch hefyd gwyno i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

1

Cysylltu â'r cwmni

Mae'n rhaid i'r cwmnïau yr ydym ni'n eu hawdurdodi fod â phroses yn ei lle ar gyfer datrys cwynion.

Felly, os ydych yn anhapus â chynnyrch neu wasanaeth ariannol, cysylltwch â'r cwmni. Dywedwch wrthyn nhw beth ddigwyddodd a phryd, a gofynnwch iddynt gywiro pethau. Gwnewch gofnod o sut a phryd y gwnaethoch chi gysylltu â nhw.

Gallwch wirio'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol i wneud yn siŵr bod cwmni wedi’i awdurdodi.

2

Byddwch chi’n cael ymateb

Oni bai eu bod yn datrys eich cwyn o fewn 3 diwrnod busnes, rhaid i bob cwmni ymateb yn ysgrifenedig i roi gwybod i chi eu bod wedi derbyn eich cwyn.

Yn gyffredinol, rhaid i gwmnïau gysylltu â chi’n ysgrifenedig i roi gwybod i chi ganlyniad eich cwyn o fewn 8 wythnos. Rhaid iddynt ddweud wrthych a yw eich cwyn wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, neu pam fod angen mwy o amser arnynt i ymchwilio.

Darparwyr gwasanaethau talu neu roddwyr e-arian

Fel arfer mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau talu a rhoddwyr e-arian ymateb i rai cwynion o fewn 15 diwrnod busnes. Os na allan nhw ddarparu ymateb terfynol, rhaid iddyn nhw egluro'r rhesymau dros yr oedi.

Yna mae'n rhaid i chi gael ymateb terfynol o fewn 35 diwrnod busnes o'r diwrnod pan wnaethoch chi'r gŵyn gyntaf. 

3

Cysylltu â’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol

Os ydych chi'n anhapus gyda phenderfyniad y cwmni, neu os nad ydych chi'n clywed ganddyn nhw o fewn yr amserlen gywir, efallai y bydd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn gallu helpu. 

Darganfyddwch os allant helpu, drwy ddefnyddio eu gwiriwr cwynion ar-lein.

Mae'r Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth annibynnol, am ddim er mwyn datrys anghydfodau rhwng cwmnïau gwasanaethau ariannol a'u cwsmeriaid. Gall ymdrin â chwynion am ystod eang o faterion - o yswiriant anifeiliaid anwes i stociau a chyfranddaliadau.

Ar ôl i chi gysylltu â nhw, bydd y tîm yn yr Ombwdsmon Ariannol yn siarad â’r cwmni ac yna’n penderfynu a ddylid cadarnhau eich cwyn.

Os ydynt yn penderfyniad o'ch plaid chi, a'ch bod yn cytuno i'r telerau, rhaid i'r cwmni gydymffurfio â'r penderfyniad.

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Ombwdsmon Ariannol o fewn 6 mis i dderbyn ymateb terfynol gan y cwmni, neu efallai na fyddant yn gallu helpu.

Mynd â'r mater i'r llys

Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon Ariannol, ac nad ydych wedi defnyddio cynllun cwynion annibynnol, mae'n bosib y gallwch fynd â'ch achos i'r llys. Ond ni fydd hyn yn opsiwn bob tro.

Fel arfer, byddech yn dechrau camau cyfreithiol sifil yn y llysoedd sirol neu'r Uchel Lys (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon), gan dibynnu ar yr achos. Yn yr Alban, mae'r rhan fwyaf o hawliadau bach yn cael eu cychwyn yn Llysoedd y Siryf.

Defnyddio cwmni rheoli hawliadau (CMC)

Mae'n rhad ac am ddim ac yn syml i wneud cwyn eich hun. Gallwch hefyd gael help gan sefydliadau fel MoneyHelper os ydych yn poeni. Gall CMCs wneud cwyn ar eich rhan chi, ond bydd yn codi ffi arnoch am y gwasanaeth.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio CMC, dylech gael gwybod faint y byddant yn ei godi a phenderfynu a ydych yn fodlon bod yr arian hwnnw'n cael ei ddidynnu o'ch iawndal.

Dysgwch fwy am ddefnyddio CMCs.

Page updates

: Editorial amendment Small updates to introduction and 'Take the matter to court'