RegData

RegData yw ein platfform newydd i gasglu data rheoleiddiol gan gwmnïau. Mae’n disodli ein system Gabriel, ac yn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau gyflwyno eu data.

Bydd angen i bob un o’r 52,000 cwmni sy’n cyflwyno gwybodaeth reoleiddiol yn Gabriel ddefnyddio RegData.

Rydym wedi dechrau’r broses o symud cwmnïau ac unigolion drosodd i RegData, ac yn gwneud hyn fesul dipyn. Nid oes angen i chi weithredu nes i ni gysylltu gyda’ch cwmni yn uniongyrchol, 3 wythnos cyn eich dyddiad symud. Tan hynny, parhewch i ddefnyddio Gabriel.

Mewngofnodi i RegData

Defnyddio RegData

Fel Gabriel, gallwch ddefnyddio system RegData i:

  • gyflwyno data rheolaethol
  • gweld atodlen wedi ei theilwra o’ch anghenion adrodd chi
  • gweld eich holl gyflwyniadau mewn un lle 
  • argraffu eitemau data 

Mae RegData wedi ei adeiladu gyda thechnoleg fwy hyblyg fel y gallwn drwsio problemau yn gynt a pharhau i wella profiad defnyddwyr.

Adnoddau ar-lein 

Cyfeiriwch at ein tudalennau r/firms/regdata/resources ar gyfer canllaw defnyddwyr a fideos esbonio i’ch tywys trwy bob agwedd o’r system.

Os nad ydych wedi symud i RegData eto, darganfyddwch sut i baratoi eich cwmni ar gyfer y symud.

Yn y dyfodol, byddwn yn:

  • cyhoeddi canllawiau technegol a manylion unrhyw uwchraddio system 
  • diweddaru cwmnïau o unrhyw ddatblygiadau trwy ein gwefan a’n sianeli cyfathrebu eraill, gan gynnwys Regulation Round-up

Anghenion technegol 

I gael mynediad i RegData, rydym yn argymell:

  • Adobe Acrobat Reader 7.0 neu uwch (am ddim i lawr lwytho)
  • Google Chrome
  • cydraniad sgrin 1280 x 1024 picsel

Eitemau data 

Ni fydd yr eitemau data rydych yn cyflwyno yn RegData yn newid – byddwch yn cwblhau eich cyflwyniadau yn RegData yn hytrach na Gabriel. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllaw ar sut i gwblhau rhai o’r eitemau data mwyaf cyffredin yn Gabriel, megis materion ariannol neu arian cleient ac enillion asedau, bydd y rhain yn aros yr un fath ar RegData.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllaw cyfeirio data ar gyfer Gabriel, mae hwn yn parhau’r un fath ar gyfer RegData.

Canllawiau polisi a chwestiynau cyson  

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i system Gabriel a RegData. Mae ar gael ar hyn o bryd ar ein tudalen cymorth a chwestiynau cyson Gabriel.

Page updates

: Editorial amendment page updated as part of website refresh