Cwyno amdanom ni, y PRA neu Banc Lloegr (y rheoleiddwyr)

Cael gwybod sut i wneud cwyn am y rheoleiddwyr a sut rydym yn ymchwilio i gwynion.

Fe welwch ddiffiniad o’r hyn a ystyrir yn gŵyn am y rheoleiddwyr yn y Cynllun Cwynion (PDF).

Mae’n nodi hefyd pa fathau o gwynion na fyddwn yn eu hymchwilio. Dyma rai enghreifftiau o’r rhain:

  • cwynion am ein rheolau neu’n canllawiau
  • cwynion am gwmnïau yr ydym yn eu rheoleiddio
  • cwynion am weithredoedd neu ddiffyg gweithredoedd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol, y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol neu’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol

Sut i gwyno

Mae sawl ffordd y gallwch gysylltu â ni os ydych am wneud cwyn. Gallwch naill ai:

Defnyddiwch un o’r dulliau hyn i gysylltu â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn y lle cyntaf hyd yn oed os yw eich cwyn yn erbyn y PRA neu Fanc Lloegr.

Delio â’ch cwyn

Mae cwynion yn ein helpu ni i ddysgu gwersi a gwella ein perfformiad. Rydym yn cymryd y materion hyn o ddifri a’n bwriad yw datrys cwynion yn gyflym ac yn ddiduedd, gan ymdrin ag achwynwyr yn gwrtais ac yn sensitif.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn pum diwrnod gwaith. Yna, caiff eich cwyn ei hasesu a byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn pedair wythnos os na allwn ymchwilio eich cwyn ac yn egluro pam.

Os byddwn yn ymchwilio eich cwyn, mae’n bosib y byddwn yn penderfynu mai’r ardal fusnes sydd â’r cyswllt agosaf â hi fyddai orau i ymdrin â hi. Fel arall, mae’n bosib y byddwn yn penderfynu y dylai ein Tîm Cwynion gynnal ei ymchwiliad ei hun. Byddwn yn eich diweddaru am ein hymchwiliad drwy gydol yr amser.

Os ystyriwn bod cyfiawnhad i’ch cwyn, byddwn yn ymddiheuro ac, os yw hynny’n briodol, byddwn yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud i ddatrys y broblem neu ei hatal rhag digwydd eto. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, mae’n bosib y byddwn yn cynnig taliad ewyllys da i chi fel cydnabyddiaeth am unrhyw anghyfleustra yr ydych wedi’i ddioddef.

Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich cwyn

Os ymdriniwyd â’ch cwyn gan yr ardal fusnes yr oedd yn berthnasol iddi ac rydych yn anhapus gyda’r ymateb, gallwch ei chyfeirio i’r Tîm Cwynion.

Os ydych yn anhapus gydag ymateb y Tîm Cwynion, neu’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn, gallwch gyfeirio eich cwyn i’r Comisiynydd Cwynion (dolen allanol). Fel arfer, dylid gwneud hyn o fewn tri mis o’r penderfyniad terfynol gan ein Tîm Cwynion.

Sut rydym yn defnyddio eich data

Os ydych yn gwneud cwyn ar e-bost, dros y ffôn neu ar ein ffurflen gwynion, fe ofynnir i chi ddarparu peth gwybodaeth bersonol amdanoch chi i ni, megis eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Mae hyn yn bennaf er mwyn ein helpu ni i ymateb i’ch cwyn ac i ganiatáu i ni eich adnabod chi os byddwch yn cysylltu â ni eto. Hefyd, byddwn yn cofnodi unrhyw wybodaeth bersonol arall amdanoch chi ac eraill y gallech ei darparu i ni fel rhan o’ch cwyn.

Mae’r Cynllun Cwynion yn gynllun ar y cyd a ddefnyddir gan yr FCA, y PRA a Banc Lloegr felly er mwyn cael gwybod mwy ynghylch sut a pham yr ydym yn ei ddefnyddio ewch i weld ein hysbysiadau preifatrwydd: hysbysiad preifatrwydd yr FCA, a hysbysiad preifatrwydd Banc Lloegr (sydd ar gael ar ei wefan).