Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), yw'r rheoleiddiwr ymddygiad ar gyfer bron i 60,000 o gwmnïau gwasanaethau ariannol yn y DU a'r rheoleiddiwr darbodus ar gyfer dros 18,000 o'r cwmnïau hynny.
On this page 
Beth rydym yn ei wneud
Mae angen i farchnadoedd ariannol fod yn onest, yn deg ac yn effeithiol fel bod defnyddwyr yn cael bargen deg.
Ein nod yw gwneud i farchnadoedd weithio'n dda - i unigolion, i fusnesau mawr a bach, ac i'r economi gyfan.
Rydym yn gwneud hyn drwy reoleiddio ymddygiad bron i 60,000 o fusnesau.
Ni yw'r rheoleiddiwr darbodus ar gyfer dros 18,000 o'r cwmnïau hyn a'r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (dolen allanol) yw'r rheoleiddiwr darbodus ar gyfer banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, yswirwyr a chwmnïau buddsoddi a ddynodwyd.
Cawsom ein sefydlu ar 1 Ebrill 2013, gan gymryd cyfrifoldeb dros swyddogaethau rheoleiddio ymddygiad a darbodus perthnasol yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Pam rydym yn ei wneud
Rydym yn gyfrifol am reoleiddio sector sy'n chwarae rôl hollbwysig ym mywydau pob unigolyn yn y DU, a hebddo ni fyddai'r economi fodern yn gallu gweithredu. O gyfrifon ISA i blant i bensiynau, debydau uniongyrchol i gardiau credyd, benthyciadau i fuddsoddiadau - mae pa mor dda y mae marchnadoedd ariannol yn gweithio yn cael effaith fawr ar bob un ohonom.
Mae gwasanaethau ariannol yn y DU yn cyflogi mwy na 2.2 miliwn o bobl ac yn cyfrannu £65.6bn mewn treth i economi'r DU. Os yw marchnadoedd y DU yn gweithio'n dda, yn gystadleuol ac yn deg, maent o fudd i gwsmeriaid, staff a chyfranddalwyr, ac yn cynnal yr hyder yn y DU fel canolfan ariannol fyd-eang bwysig. Ein rôl yw helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Sut rydym yn ei wneud
Ein hamcan strategol yw sicrhau bod y marchnadoedd perthnasol yn gweithio'n dda a'n hamcanion gweithredol yw:
- diogelu defnyddwyr - rydym yn sicrhau lefel briodol o ddiogelwch ar ran defnyddwyr
- diogelu marchnadoedd ariannol - rydym yn diogelu ac yn gwella uniondeb system ariannol y DU
- hyrwyddo cystadleuaeth - rydym yn hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol er budd defnyddwyr
Rydym yn gorff cyhoeddus annibynnol a gaiff ei ariannu'n gyfan gwbl gan y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio, drwy godi ffioedd arnynt. Rydym yn atebol i'r Trysorlys, sy'n gyfrifol am system ariannol y DU, ac i'r Senedd.
Diffinnir ein gwaith a'n diben gan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Rydym yn gweithio gyda grwpiau defnyddwyr, cymdeithasau masnach a chyrff proffesiynol, rheoleiddwyr domestig, deddfwyr yr UE ac ystod eang o randdeiliaid eraill. Gyda'r cylch gwaith helaeth hwn, rydym yn mynd ati i reoleiddio mewn ffordd gymesur, gan flaenoriaethu meysydd a chwmnïau sy'n peri'r risg fwyaf i'n hamcanion.