Rydym yn cynnig sefydlu cynllun iawndal i bobl a drosglwyddodd o Gynllun Pensiwn British Steel (BSPS).
Os penderfynwn weithredu cynllun iawndal, bydd yn rhaid i'r cwmni a'ch cynghorodd i drosglwyddo'ch pensiwn wirio'r cyngor a roddwyd i chi. Os nad oedd y cyngor yn addas, bydd y cwmni'n gwirio i weld a wnaethoch chi golli arian o ganlyniad. Os gwnaethoch chi, byddant yn ysgrifennu atoch ac yn cynnig iawndal i chi.
Efallai y bydd angen iddynt gysylltu â chi ymlaen llaw hefyd, os oes angen mwy o wybodaeth arnynt gennych i wirio eu cyngor neu gyfrifo'r arian a allai fod arnynt i chi.
Rydym yn casglu adborth ar ein cynigion ar gyfer sut y bydd y cynllun yn gweithio. Rydym wedi nodi'r rhai pwysicaf i chi eu hystyried a byddem yn ddiolchgar am eich adborth ar y rhain. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gofrestru ar gyfer diweddariadau e-bost.
Os ydych yn pryderu eich bod wedi cael cyngor anaddas, gallwch wneud cwyn yn awr yn hytrach nag aros am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cynllun iawndal. Darganfyddwch sut i gwyno.
Ein cynlluniau ar gyfer sefydlu'r cynllun
31 Mawrth | Gwnaethom gyhoeddi ein papur ymgynghori yn nodi ein cynigion ar gyfer y cynllun. |
Gwanwyn/Haf | Byddwn yn cael adborth ar ein cynigion ar gyfer sut y bydd y cynllun iawndal yn gweithio. |
Haf/Hydref | Byddwn yn adolygu'r holl adborth ac yn cwblhau ein cynlluniau ar gyfer y cynllun. |
Hydref/Gaeaf | Byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau terfynol ar gyfer y cynllun iawndal a rhagor o wybodaeth i chi. |
Dim ond ar gyfer defnyddwyr a allai fod wedi cwyno ar yr adeg y mae'r FCA yn gwneud rheolau'r cynllun y gall cynllun iawndal ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau asesu achosion.
Mae terfynau amser (darganfyddwch fwy gan Wasanaeth yr Ombwdsmon) ar gyfer gwneud cwyn am y cyngor trosglwyddo pensiwn a gawsoch. Ond os byddwn yn gwneud rheolau i'w gwneud yn ofynnol i gwmnïau weithredu cynllun iawndal, bydd yn ofynnol i gwmnïau adolygu'r cyngor a roddwyd i ddefnyddwyr hyd yn oed os bydd y terfynau amser ar gyfer gwneud cwyn neu hawliad yn dod i ben ar ôl i'r cynllun ddechrau.
Os gwnaethoch drosglwyddo yn 2016 neu'n gynharach, efallai eich bod yn agosáu at y terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwyn, a gall hyn ddod i ben cyn dechrau'r cynllun. Dylech wirio eich cyngor nawr ac ystyried hawlio.
Os nad yw eich cwmni'n masnachu mwyach neu'n mynd allan o fusnes cyn i'r cynllun ddechrau, gallwch wneud hawliad i'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Ein cynigion ar gyfer sut y byddai'r cynllun yn gweithio
Mae hyn wedi'i nodi'n fanylach yn ein papur ymgynghori ac mae'n bosib y bydd yn newid yn dibynnu ar yr adborth a gawn. Dim ond i bobl sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun y bydd y camau hyn yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am bwy fyddai'n cael eu cynnwys isod.
Cam 1: Bydd eich cwmni'n ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a ydynt yn mynd i adolygu eich cyngor. Efallai y bydd angen mwy o wybodaeth arnynt gennych.
Cam 2: Ar ôl cael eich llythyr, dylai'r cwmni ysgrifennu atoch eto i ddweud wrthych a oedd eich cyngor yn addas.
Cam 3: Os oeddent o’r farn nad oedd eich cyngor yn addas, byddwch yn derbyn llythyr yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth fel y gall y cwmni gyfrifo a ydych wedi colli arian ac fod arnynt iawndal i chi.
Cam 4: Os yw'r cwmni'n cyfrifo fod arnynt arian i chi, byddwch yn derbyn llythyr gyda chynnig iawndal.
Cam 5: Os ydych yn derbyn y cynnig hwn, bydd yn ofynnol i'r cwmni dalu iawndal i chi o fewn cyfnod penodol o amser.
Mae ein papur ymgynghori yn nodi ein cynlluniau i sicrhau bod eich cwmni'n adolygu eich cyngor yn briodol ac yn eich trin yn deg.
Os oeddech yn anhapus â'r ffordd y mae eich cwmni wedi asesu'r cyngor a roddwyd i chi, byddwch yn gallu cwyno i wasanaeth yr ombwdsmon a fydd yn ystyried a oedd y cwmni wedi cymhwyso rheolau'r cynllun yn gywir wrth asesu'ch achos a chyfrifo iawndal.
Byddwn hefyd yn monitro cwmnïau'n ofalus i sicrhau nad ydynt yn osgoi talu iawndal.
Pwy na fyddai'n dod o dan y cynllun iawndal
Mae'r grwpiau o bobl nad ydynt yn rhan o'r cynllun arfaethedig, a'r camau y gallant eu cymryd, wedi'u nodi isod.
Dweud eich dweud am y cynigion ar gyfer y cynllun iawndal
Rydym am gael eich adborth ar ein cynigion. Mae'r pwyntiau allweddol ar gyfer cyn-aelodau'r BSPS wedi'u hamlinellu ar y dudalen hon ond gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein papur ymgynghori.
Os ydych yn gyn-aelod o'r BSPS, gallwch roi adborth ar ein ffurflen ar-lein neu os oes angen i chi gyflwyno eich ymateb mewn fformat arall oherwydd rhesymau hygyrchedd, cysylltwch â ni yn [email protected]. Os hoffech roi adborth manylach, gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am sut i wneud hyn.