CP22/6: Cynllun iawndal i ddefnyddwyr am gyngor anaddas i drosglwyddo allan o Gynllun Pensiwn Dur Prydain

Ymgynghoriad yn agor
31/03/2022
Dyddiad cau ar gyfer adborth ar C19 ym Mhennod 6
12/05/2022
Ymgynghoriad wedi cau
30/06/2022
30/06/2022

Rydym yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer cynllun iawndal i sicrhau bod aelodau Cynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS) a gafodd gyngor anaddas i drosglwyddo o'r cynllun ac a ddioddefodd golled ariannol yn cael iawndal.

Darllen CP22/6 (PDF)

Pam rydym yn ymgynghori

Dioddefodd nifer fawr o aelodau BSPS golled ariannol ar ôl cael eu cynghori i drosglwyddo eu pensiynau allan o'r cynllun. Rydym yn cynnig gweithredu cynllun iawndal i ddefnyddwyr sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau a roddodd gyngor i drosglwyddo allan o'r BSPS adolygu'r cyngor a roddwyd ganddynt, nodi a oedd yn anaddas a chyfrifo a thalu iawndal i ddefnyddwyr lle bo angen.

Rydym yn cymryd y camau beiddgar hyn i ddiogelu defnyddwyr. Cafodd cyn-aelodau'r cynllun lefelau sylweddol uwch o gyngor anaddas nag achosion eraill. Felly, dan ein cynigion, rydym am i'r rheini a gollodd allan yn ariannol ar ôl cael cyngor anaddas gael iawndal drwy ein cynllun.

I bwy y mae hyn yn berthnasol

Mae'r ymgynghoriad hwn ar gyfer:

  • cwmnïau rheoleiddiedig a roddodd gyngor i aelodau BSPS i drosglwyddo yn ystod y cyfnod perthnasol a'u hyswirwyr
  • grwpiau diwydiant / cyrff masnach
  • defnyddwyr unigol, yn enwedig aelodau BSPS a drosglwyddodd eu pensiwn, a'u cynrychiolwyr
  • grwpiau defnyddwyr
  • yswirwyr sy'n darparu yswiriant indemniad proffesiynol ar gyfer cynghorwyr ariannol sy'n ymwneud â throsglwyddiadau pensiwn

Os ydych yn ddefnyddiwr, cewch ragor o wybodaeth am y cynllun iawndal ar ein tudalen Cynllun Pensiwn Dur Prydain.

Cefndir y cynllun iawndal i ddefnyddwyr

Trosglwyddodd llawer o aelodau'r BSPS allan o'r cynllun ar ôl derbyn cyngor anaddas ac maent wedi dioddef colled ariannol o ganlyniad. Gwnaethom adolygu ffeiliau o sampl o'r cwmnïau a argymhellodd drosglwyddo allan o BSPS ac rydym wedi dod i'r casgliad bod y cyngor anaddas yn eang.

Rydym wedi cyhoeddi llythyr Annwyl Brif Swyddog Gweithredol at gwmnïau o fewn cwmpas cynllun iawndal posibl, gan ailadrodd ein disgwyliadau bod yn rhaid i gwmnïau gael adnoddau ariannol digonol, dylent gadw asedau ar gyfer ymarferiad iawndal posibl, ac ni ddylent geisio osgoi eu cyfrifoldebau. 

Y Camau Nesaf

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau. Byddwn yn cyhoeddi adborth ar ymatebion ac yn cyhoeddi Datganiad Polisi unwaith y byddwn wedi adolygu eich sylwadau.