Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yn gofnod cyhoeddus o gwmnïau, unigolion a chyrff eraill sydd wedi, neu sydd wedi'u hawdurdodi yn flaenorol, gennym ni neu'r PRA.
Yn y DU, rhaid i bron pob gweithgaredd gwasanaeth ariannol gael ei awdurdodi neu ei gofrestru gyda ni.
Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yn rhestru'r holl gwmnïau ac unigolion sy'n ymwneud â gweithgareddau sydd wedi eu rheoleiddo rydym wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd neu yn y gorffennol.
Cwmnïau anawdurdodedig
Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yn rhestru cwmnïau sydd wedi eu hadrodd i ni eu bod yn darparu cynhyrchion neu wasanaethau rheoledig heb yr awdurdod cywir - neu'n rhedeg sgamiau yn fwriadol.
Mae hefyd yn cynnwys y gwahanol fanylion y mae cwmnïau anawdurdodedig yn eu rhannu neu os ydyn nhw'n honni eu bod yn dod o gwmni dilys, awdurdodedig (mae hyn yn cael ei alw yn gwmni clôn).
Am restr lawn o'r cwmnïau rydyn ni wedi cyhoeddi rhybuddion amdanynt, chwiliwch ar ein Rhestr Rhybuddion.
Data Cyfeiriadur Personau
Mae Data Cyfeiriadur Personau ar gyfer cwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gan yr FCA neu gan yr FCA a'r PRA ar y cyd, bellach wedi'i gyhoeddi ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol. Rhaid i gwmnïau a reoleiddir yn unigol ac ar y cyd, sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r SM&CR.
Dylech wirio manylion unrhyw unigolyn sy'n cynnal gweithgareddau rheoledig ar eich rhan, yn enwedig rolau cyfredol, ac unrhyw gamau disgyblu neu reoleiddiol ar eu cofnod.
Gweler y Cyfeiriadur personau ardystiedig ac asesu am ragor o wybodaeth.
Cyrchu data
Os hoffech ddefnyddio data o'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, gallwch brynu tanysgrifiad rheolaidd neu ar sail data untro.
Darllenwch fwy am ein Gwasanaeth Echdynnu o’r gofrestr (RES).
Fel arall, gallwch gofrestru ar Porth Cofrestr FS datblygwr API. Mae'r gwasanaeth hwn, sydd yn rhad ac am ddim, yn caniatáu i ddefnyddwyr greu allwedd unigryw i gael mynediad i'r Gofrestr API (application programming interfaces), yn ogystal â darparu deunyddiau cymorth hunangymorth.
Gan fod yr API yn wasanaeth am ddim, nid ydym yn cynnig unrhyw gytundebau lefel gwasanaeth (SLAs) nac yn gwarantau ar gyfer pan fydd y system ar gael neu i ddatrys problemau.
Cyrchu'r Gofrestr
Darganfyddwch pa borwyr sy'n cael eu cefnogi gan y Gofrestr FS, a'i awdurdodaeth reoleiddiol, ar ei dudalen gwybodaeth gyfreithiol.
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw broblemau neu gwestiynau ynglŷn â defnyddio'r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, cysylltwch â ni. Gall defnyddwyr y sector hefyd e-bostio tîm y Gofrestr.
Cynrychiolwyr penodedig
Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai cwmnïau ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol wedi'u rhestru fel cynrychiolwyr penodedig (AR). Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnal gweithgareddau ar ran cwmni arall, mae hyn yn cael ei alw yn bennaeth (principle).
Gall ARs gael mwy nag un pennaeth. Mae'r pennaeth yn cytuno pa weithgareddau y gall yr AR eu gwneud ac mae'n gyfrifol am y busnes hwnnw.
Mae'n bwysig eich bod yn gwirio gyda'r pennaeth os oes gennych bryderon am AR neu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau y gall ei gynnig. Os yw AR wedi mynd y tu hwnt i'r gweithgareddau y mae'r pennaeth wedi'u caniatáu, efallai na fyddwch yn cael eich diogelu gan y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol neu'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer ARs a phenaethiaid ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol. Gallwch ofyn i'r pennaeth gadarnhau pa weithgareddau sydd gan yr AR ganiatâd ar eu cyfer a sut y byddech chi'n cael eich diogelu pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.