FCA Firm Checker

Our new tool for consumers makes it easier to check if a firm is authorised and has permission for the service it's offering you.

Prynu Nawr a Thalu yn Hwyrach

Fe ddechreuon ni reoleiddio Credyd Talu Gohiriedig, a elwir yn aml yn Prynu Nawr a Thalu yn Hwyrach, ar 15 Gorffennaf 2026.

First published: 20/04/2026 Last updated: 06/08/2026 See all updates

Pan fyddwch chi'n siopa ar-lein neu mewn siop, mae rhai busnesau yn cynnig opsiwn Prynu Nawr a Thalu yn Hwyrach ar gyfer eich eitemau. 

Mae 2 fath o gynlluniau Prynu Nawr a Thalu yn Hwyrach; un sy’n codi llog (neu’n codi llog os nad ydych chi’n ad-dalu o fewn amser penodol), ac un arall a elwir yn Credyd Talu Gohiriedig (Deferred Payment Credit) (CTG). 

Mae CTG yn ffurf ddi-log o gredyd, y gellir ei ad-dalu mewn 12 rhandaliad neu lai, dros 12 mis neu lai.

Cyn 15 Gorffennaf 2026, nid oedd cytundebau CTG yn cael eu rheoleiddio, oedd yn golygu nad oedd angen i fenthycwyr gael eu hawdurdodi gennym ni neu ddilyn ein rheolau.

Mae hyn wedi newid bellach. Mae angen i fenthycwyr gael eu hawdurdodi gennym neu fod yn rhan o'n cyfundrefn caniatâd dros dro er mwyn parhau i gynnig CTG. Darganfyddwch beth sydd wedi newid.

Beth sy'n cael ei reoleiddio

Mae cytundebau CTG yn cael eu rheoleiddio os yw'r benthyciwr a'r cyflenwr nwyddau neu wasanaethau yn fusnesau gwahanol.

Er enghraifft, os ydych chi'n prynu dillad o un siop, ond mae darparwr y credyd yn fusnes gwahanol. 

Beth sydd ddim yn cael ei reoleiddio

Os ydych chi'n prynu rhywbeth gan fusnes ac yn defnyddio CTG sy’n cael ei ddarparu gan yr un busnes, nid yw’n cael ei reoleiddio.

Bydd unrhyw gytundeb CTG rydych chi wedi ei gymryd cyn 15 Gorffennaf 2026 hefyd yn parhau heb ei reoleiddio. Ni fydd yr amddiffyniadau newydd yn berthnasol i'r cytundebau hyn.

Sut i wirio benthyciwr CTG

Gallwch wirio os yw benthyciwr wedi ei awdurdodi i gynnig CTG ar Wiriwr Cwmnïau’r FCA

  1. Chwiliwch am y cwmni yn ôl enw. 
  2. Dewiswch y gwasanaeth rydych chi eisiau gan y cwmni: 'Benthyca arian, gan gynnwys benthyca cardiau credyd a gwybodaeth credyd'.
  3. Gwiriwch fod y cwmni ‘wedi’i awdurdodi’ ac fod ganddo ganiatâd i 'fenthyca arian i chi ar sail heb warant'.

Os nad yw’r benthyciwr wedi’i awdurdodi, gwiriwch ein cofrestr o fenthycwyr isod, i gael gwybod os yw’n gallu cynnig CRG o dan y gyfundrefn caniatâd dros dro.

Benthycwyr gyda chaniatâd dros dro

Mae’r benthycwyr canlynol wedi’u cofrestru ar gyfer ein cyfundrefn caniatâd dros dro. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw wedi’u hawdurdodi gennym ni eto, ond maent yn gallu darparu cytundebau CTG.

  • Access Fertility (Access Fertility Ltd)
  • Cashbox (Tameside Credit Union)
  • Clearpay (Clearpay Finance Ltd)
  • Manchester Credit Union
  • Medicred (Medicred Ltd)
  • The Money Co-op (Metro Moneywise Credit Union)
  • Oldham Credit Union
  • PayItMonthly (PayItMonthly Ltd)
  • PLIM (PLIM Ltd)
  • PollenPay (PollenPay UK Ltd)
  • Remedi Finance (Remedi Finance Ltd)
  • Salford Credit Union Limited
  • South Manchester Credit Union
  • Zero Down Lease (Leasehold Finance Ltd)
  • Zeropa (Zeropa Holdings Ltd)

Os yw benthyciwr wedi’i gofrestru ar gyfer y gyfundrefn caniatâd dros dro, mae’n rhaid iddo ddilyn ein rheolau ar gyfer unrhyw gytundebau CTG a wnaed o 15 Gorffennaf. 

Bydd modd i chi hefyd weld os yw benthyciwr yn rhan o’r gyfundrefn caniatâd dros dro ar ein Gwiriwr Cwmnïau.

Beth sydd wedi newid

Rydym am i'n rheolau ar gyfer CTG leihau'r risg o niwed i unigolion sy'n dewis ei ddefnyddio. Mae angen i fenthycwyr ddilyn y rheolau hyn o 15 Gorffennaf 2026.

Gwirio y gallwch fforddio ad-dalu

Rydym am wneud yn siŵr bod cwmnïau'n benthyca yn gyfrifol ac yn fforddiadwy. Felly, mae angen i fenthycwyr wirio a allwch fforddio ad-dalu cyn i chi gymryd cytundeb.

Gwybodaeth am eich cytundebau CTG

Rydym am i chi allu penderfynu a yw CTG yn iawn i chi. Felly, mae angen i fenthycwyr roi gwybodaeth bwysig i chi cyn i chi gymryd cytundeb CTG.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Y swm y byddwch chi'n ei fenthyca.
  • Pryd fydd angen i chi wneud ad-daliadau.
  • Faint fydd eich ad-daliadau.
  • Faint fydd unrhyw ffi hwyr.
  • Yr hawliau a'r amddiffyniadau sydd gennych.

Os ydych chi'n cael trafferth cadw i fyny â thaliadau

Os byddwch yn colli ad-daliad, bydd angen i gwmnïau gysylltu â chi i roi gwybod i chi ac esbonio beth mae hyn yn ei olygu.

Os ydych chi'n cael trafferth gwneud ad-daliadau, dylech gysylltu â'ch benthyciwr. O dan ein rheolau, bydd angen i gwmnïau roi cymorth i chi.

Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian, gallwch gael arweiniad ar ddelio â dyled gan HelpwrArian. Gallwch hefyd ddefnyddio'r teclyn Debt Advice Locator i ddod o hyd i wasanaethau am ddim yn eich ardal.

Os oes angen i chi gwyno

Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich benthyciwr CTG wedi eich trin, bydd gennych yr hawl i gwyno.

Yn y lle cyntaf, dylech ofyn i'ch benthyciwr roi pethau'n iawn. Ond os ydych chi'n anhapus â'u hymateb, byddwch yn gallu gwneud cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol.

Ad-daliadau

Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda'r hyn rydych chi wedi'i brynu gan ddefnyddio CTG, efallai y byddwch chi'n gallu cael ad-daliad gan y benthyciwr.

Mae hyn oherwydd bod Adran 75 o'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr ar gael. Dyma'r un amddiffyniad y byddech chi'n ei gael pe baech chi'n defnyddio cerdyn credyd i dalu.

: Information added Cashbox and Remedi Finance added to register of lenders.
: Information added South Manchester Credit Union added to register of lenders.
: Information added Oldham Credit Union and Salford Credit Union added to register of lenders.
: Information added The Money Co-op added to register of lenders.
: Information added Zero Down Lease added to register of lenders.
: Information added Clearpay added to register of lenders.
: Information added Access Fertility and Manchester Credit Union added to register of lenders.
: Information added PLIM added to register of lenders.
: Information added PayItMonthly added to register of lenders.
: Information added Medicred added to register of lenders.