Cwyno amdanom ni, y PRA neu Fanc Lloegr (y rheoleiddwyr)

Darganfyddwch sut i wneud cwyn am y rheoleiddwyr a sut rydym yn ymchwilio i gwynion.

Ni all rheoleiddiwr ystyried cwynion am y cwmnïau y mae’n eu rheoleiddio. Os oes gennych gwyn am gwmni, dylech ei godi gyda’r cwmni yn gyntaf. Os ydych yn anhapus gyda’r canlyniad, efallai y byddwch yn gallu gwneud cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

Beth yw 'cwyn am y rheoleiddwyr'? 

Mae hyn yn cael ei esbonio yn y Cynllun Cwynion (PDF).

Os y gwnaethoch gwyno cyn 31 Hydref 2023, cyfeiriwch at y Cynllun Cwynion (Mawrth 2016) (PDF).

Mae’r Cynllun Cwynion hefyd yn nodi pa fathau o gwyn na fyddwn yn ymchwilio iddynt. Rhai enghreifftiau o’r rhain yw: 

  • Cwynion am ein rheolau neu ganllawiau.
  • Cwynion am y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio.
  • Cwynion am weithredoedd neu ddiffyg gweithredoedd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol, y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) neu HelpwrArian.

Mae’n bosibl gwneud cwynion i wahanol sefydliadau ar yr un pryd. Er enghraifft gallwch wneud cwyn i ni a’r Ombwdsmon Ariannol am yr peth ar yr un pryd.

Nid oes angen gadael i un gwyn gael ei chwblhau cyn i chi dechrau un arall. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r gwyn amdanom ni ymwneud â sut rydym wedi cyflawni, neu fethu a chyflawni, ein ‘swyddogaethau perthnasol’ fel y maent wedi eu diffinio yn y Cynllun Cwynion.

Rydym yn argymell eich bod yn cwyno cyn gynted ag yr ydych yn ymwybodol o’r broblem. 

Sut i gwyno

Mae sawl ffordd y gallwch cysylltu â ni os ydych am wneud cwyn. Gallwch: 

Os na allwch gwyno’n ysgrifenedig, gallwch ffonio gwasanaeth neges llais (voicemail) y Tîm Cwynion ar 020 7066 9870. Byddwn yn anelu at ddychwelyd eich galwad o fewn 2 ddiwrnod gwaith o’i dderbyn. Nodwch na allwn ateb ymholiadau cyffredinol ar y llinell hon.

Os ydych eisiau cysylltu â ni am rywbeth nad yw’n gwyn am yr FCA neu’r rheoleiddwyr eraill, gallwch gysylltu â’n llinell gymorth defnyddwyr ar 0800 111 6768 neu ymweld â’n tudalen cysylltu â ni.

Defnyddiwch un o’r dulliau hyn i gysylltu â ni yn y lle cyntaf hyd yn oed os yw eich cwyn yn erbyn y PRA neu Fanc Lloegr.

Rydym eisiau sicrhau y gallwch wneud cwyn a chyfathrebu â ni’n effeithiol. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, fel recordiad sain, print bras, neu gyfathrebu llafar yn hytrach nag ysgrifenedig, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud eich cwyn neu ffoniwch y gwasanaeth cwynion neges llais ar 020 7066 9870 a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu. Gyda’ch caniatâd, gallwn hefyd siarad â’ch cynrychiolydd, fel perthynas, ffrind neu eiriolwr cymunedol am eich cwyn. Os ydych wedi cysylltu â ni o’r blaen am gwyn neu broblem, sicrhewch bod eich rhif cyfeirnod achos wrth law i’w roi i ni.

Gallwch ddarganfod mwy am sut rydym yn darparu cymorth er mwyn i chi gyfathrebu â ni’n effeithiol.

Rydym yn gwybod y gall y problemau sy’n arwain at gwyn achosi rhwystredigaeth a gofid. Ond gofynnwn yn garedig i chi fod yn gwrtais i’n pobl, gan nad ydym yn caniatáu ymddygiad camdriniol tuag atynt. Gall cam-drin effeithio ar sut y gallwn gyfathrebu â chi am eich cwyn. Darganfyddwch fwy

Ar gyfer cwynion sy’n ymwneud â sut rydym wedi trin eich data personol. Gallwch: 

Ar gyfer cwynion sy’n ymwneud â sut rydym wedi ymateb i Gais Hawliau Unigol neu gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA), cysylltwch â’n Tîm Datgelu Gwybodaeth

Delio â’ch cwyn

Mae cwynion yn ein helpu i ddysgu gwersi a gwella ein perfformiad. Rydym yn cymryd y materion hyn o ddifri ac yn anelu i ddatrys cwynion yn gyflym ac yn ddiduedd, tra’n trin achwynwyr yn gwrtais ac yn sensitif.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Yna byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 4 wythnos os na allwn ymchwilio iddo gan esbonio pam.

Os ydym yn ymchwilio i’ch cwyn, efallai y byddwn yn penderfynu mai’r maes busnes sydd â’r cysylltiad agosaf iddo sydd orau i’w drin. Fel arall, efallai y byddwn yn penderfynu y dylai ein Tîm Cwynion gynnal ei ymchwiliad ei hun. Byddwn yn eich diweddaru drwy gydol yr ymchwiliad. 
Yn ystod eich cwyn, rydym yn croesawu gwybodaeth gennych am eich profiad gyda chwmnïau i’n helpu gyda’n goruchwyliaeth o’r cwmnïau hynny.

Os ydym o’r farn bod eich cwyn yn gyfiawn, byddwn yn ymddiheuro ac, os yw’n briodol, byddwn yn esbonio sut rydym yn bwriadu datrys y broblem neu ei atal rhag digwydd eto. Yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, efallai y byddwn y cynnig taliad ewyllys da i gydnabod yr anghyfleustra rydych chi wedi ei ddioddef.

Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich cwyn

Os y gwnaeth y maes busnes perthnasol ymdrin â’ch cwyn, a’ch bod yn anhapus â’r ymateb, gallwch ei gyfeirio at ein Tîm Cwynion.

Os ydych yn anhapus ag ymateb y Tîm Cwynion, neu sut y cafodd eich cwyn ei drin, gallwch gyfeirio eich cwyn at y Comisiynydd Cwynion. Fel arfer, dylech wneud hyn o fewn 3 mis o ddyddiad ein hymateb i’ch cwyn. Bydd ein llythyr penderfyniad yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ar sut i wneud hyn, ac erbyn pryd y bydd angen i chi ei wneud. 

Sut rydyn ni’n defnyddio eich data

Os byddwch yn gwneud cwyn drwy e-bost, dros y ffôn neu ein ffurflenni cwynion, byddwn yn gofyn i chi rannu rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch eich hun, fel eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Mae hyn yn bennaf i’n helpu i ymateb i’ch cwyn a chaniatáu i ni eich adnabod os byddwch yn cysylltu â ni eto. Byddwn hefyd yn cofnodi unrhyw wybodaeth bersonol arall amdanoch chi ac eraill y gallech ei roi i ni fel rhan o’ch cwyn.

Mae’r Cynllun Cwynion yn cael ei ddefnyddio ar y cyd gan yr FCA, PRA a Banc Lloegr. I ddarganfod mwy am sut a pham rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol a phwy i gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau, gweler ein hysbysiadau preifatrwydd: hysbysiad preifatrwydd yr FCA, a hysbysiad preifatrwydd Banc Lloegr (ar gael ar eu gwefan). 

Adolygiad o daliadau Cynllun Cwynion ar gyfer colledion anariannol

Fel rhan o PS23/12, ‘Cwynion yn erbyn y Rheoleiddwyr’ gwnaethom ymrwymo i adolygu’r lefelau colledion anariannol o fewn y Cynllun Cwynion bob 2 flynedd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn briodol.

Rydym wedi cwblhau’r adolygiad hwn. Wrth wneud hynny, gwnaethom ystyried: 

  • Taliadau a wnaed o dan y cynllun dros y 2 flynedd ddiwethaf.
  • Adborth gan y Comisiynydd Cwynion.
  • Fframweithiau cwynion cymharol.
  • Chwyddiant dros y cyfnod o 2 flynedd.

Yn seiliedig ar hyn, rydym wedi dod i’r casgliad bod y lefelau presennol yn parhau i fod yn briodol. 

: Editorial amendment page refresh to mirror English page.