Goruchwyliaeth

Darganfyddwch sut rydym yn goruchwylio y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio, pam mae’n bwysig i ddefnyddwyr a marchnadoedd, a’r offer rydym yn eu defnyddio i adnabod a mynd i’r afael â niwed. 

Goruchwyliaeth yw goruchwylio cwmnïau ac unigolion i leihau niwed gwirioneddol a phosibl i ddefnyddwyr a marchnadoedd. Rydym yn goruchwylio tua 35,500 o gwmnïau mewn marchnadoedd manwerthu a chyfanwerthu. Maent yn amrywio’n eang o ran maint, cymhlethdod a’r risgiau y maent yn eu peri i ddefnyddwyr ac uniondeb y farchnad. 

Ein dull

Mae Ein Dull o Oruchwylio (PDF) yn esbonio pwrpas goruchwylio cwmnïau ac unigolion, ein dull, a’r gwerth cyhoeddus y mae’n ei ddarparu. 

Mae’n nodi: 

  • Ein rôl wrth sicrhau marchnadoedd teg a gonest. 
  • Pam a sut rydym yn blaenoriaethu ein gwaith goruchwylio.
  • Sut rydym goruchwylio’r cwmnïau a’r unigolion rydyn ni’n eu rheoleiddio.

Rydym yn goruchwylio yn ôl fframwaith o egwyddorion a rheolau sy’n cynrychioli’r safonau ymddygiad gofynnol yr ydym yn eu disgwyl gan gwmnïau ac unigolion. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel Amodau Trothwy. Rydym yn disgwyl i gwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio a’u gweithwyr fodloni’r safonau hyn ac rydym yn eu dwyn i gyfrif pan fyddant yn methu.  

Mae gennym ddull blaengar a strategol o ran ein gwaith goruchwylio. Rydym yn edrych ar ymddygiad cwmnïau unigol ac, yn fwy eang, ar sut mae marchnadoedd manwerthu a chyfanwerthu yn esblygu. I oruchwylio’n effeithiol, rydym angen dealltwriaeth fanwl o fodelau a strategaethau busnes y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio.

Rydym hefyd yn gwybod bod y diwylliant o fewn cwmnïau yn siapio’r deilliannau i ddefnyddwyr a marchnadoedd. Rydym yn asesu ac yn mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n gyrru diwylliant trwy edrych ar arweinyddiaeth, pwrpas, llywodraethiant a dull cwmnïau o reoli a gwobrwyo eu gweithwyr.

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau a darparu’r gwerth cyhoeddus mwyaf, rydym yn gweithredu dull cymesur o oruchwylio cwmnïau. 

Goruchwylio fesul portffolio

Rydym yn rhannu’r sectorau ariannol rydym yn eu rheoleiddio yn bortffolios, pob un yn cynnwys cwmnïau â modelau busnes tebyg. Gall ein portffolios addasu wrth i fodelau busnes newid. Ar gyfer cwmnïau sy’n gweithredu ar draws gwahanol sectorau neu farchnadoedd, rydym yn dynodi’r portffolio sy’n adlewyrchu eu prif fusnes. 

Rydym yn dadansoddi pob portffolio ac, gan grwpio portffolios tebyg yn farchnadoedd, yn cytuno ar strategaeth ar draws y farchnad i fynd i’r afael ag unrhyw niwed posibl a ganfyddwn. Mae hyn yn cynnwys gweithredu yn erbyn cwmnïau sy’n peri’r niwed mwyaf. 

Rydym yn defnyddio gwybodaeth gan ystod eang o ffynonellau gan gynnwys:

  • Adborth gan ddefnyddwyr a sefydliadau defnyddwyr.
  • Data a gwybodaeth gan gwmnïau a chymdeithasau masnach. 
  • Gwybodaeth gan sefydliadau rheoleiddio eraill. 
  • Gwybodaeth gan ASau a chwythwyr chwiban.

Mae’r dull hwn yn ein helpu i adnabod problemau yn gyflym a, lle bo angen, rydym yn ymyrryd i fynd i’r afael â niwed.

Rydym yn cyfathrebu ein blaenoriaethau ar gyfer pob marchnad yn flynyddol trwy ein hadroddiadau Blaenoriaethau Rheoleiddio

Sut yr rydym yn goruchwylio cwmnïau 

Rydym yn defnyddio nifer o adnoddau i oruchwylio cwmnïau, gan gynnwys:

Er mwyn ein helpu i ddefnyddio ein adnoddau yn effeithlon, mae gennym fframwaith gwneud penderfyniadau sy’n llywio sut rydym yn adnabod ac yn lleihau risgiau. 

Adolygiadau thematig

Mae adolygiadau thematig yn rhan sylweddol o’n dull o oruchwylio. Rydym yn eu defnyddio i asesu risgiau cyfredol a rhai sy’n codi ar draws nifer o gwmnïau mewn sector neu farchnad. Gall adolygiad ganolbwyntio ar ddarganfod beth sy’n digwydd ac yna gall awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â’r broblem.

Mae hyn yn ein galluogi i ymchwilio i risgiau penodol a gwneud gwaith manwl ar bryderon penodol ar draws ystod eang o sefyllfaoedd. 

Mae ein timau arbenigol yn cynnal adolygiadau desg ac ymweliadau safle, gan weithio’n agos gydag ymarferwyr y diwydiant a chyrff masnach lle bo’n briodol.

Er mwyn helpu i sicrhau perthnasedd parhaus ein cyfathrebu, rydym yn trin y rhan fwyaf o Adolygiadau Thematig a gyhoeddwyd cyn 2022 fel rhai hanesyddol.

Porwch ein hadolygiadau thematig

: System update broken link to Handbook corrected.
: Editorial amendment page updated as part of website refresh