FCA Firm Checker

Our new tool for consumers makes it easier to check if a firm is authorised and has permission for the service it's offering you.

Hawliadau cyllid modur

Os ydych wedi defnyddio cyllid modur, efallai y bydd iawndal yn ddyledus i chi. Darganfyddwch sut i gwyno a beth i'w ddisgwyl o'n cynllun.

First published: 08/04/2026 Last updated: 08/04/2026

Os ydych wedi defnyddio cyllid modur, efallai y bydd iawndal yn ddyledus i chi. Darganfyddwch sut i gwyno a beth i'w ddisgwyl o'n cynllun.

Os gwnaethoch ddefnyddio cyllid i brynu car, beic modur neu fan rhwng 6 Ebrill 2007 a 1 Tachwedd 2024, efallai y bydd iawndal yn ddyledus i chi.

Nid oedd llawer o fenthycwyr yn datgan gwybodaeth bwysig i gwsmeriaid am eu cytundebau. Roedd hyn yn torri deddfau a'n rheolau oedd mewn grym ar y pryd. Dyna pam rydyn ni wedi lansio cynllun i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu digolledu.

Bydd cyfnod sefydlu fel y gall benthycwyr baratoi.  

  • Os gwnaethoch gymryd eich benthyciad cyn 1 Ebrill 2014, bydd y cynllun yn dechrau ar 31 Awst 2026.
  • Os gwnaethoch gymryd eich benthyciad o 1 Ebrill 2014, bydd y cynllun yn dechrau ar 30 Mehefin 2026.

Efallai y bydd rhai benthycwyr yn dechrau edrych ar hawliadau cyn y dyddiadau hyn. 
 

Pigion cyflym: eich camau nesaf

Os hoffech dderbyn diweddariadau ar ein gwaith sy'n ymwneud â chwynion cyllid modur a'r hyn y mae'n ei olygu i chi, cofrestrwch ar gyfer diweddariadau e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.

Pryd y dylech glywed gan eich benthyciwr

Dewiswch pryd y gwnaethoch gymryd eich benthyciad i ddarganfod pryd y dylech ddisgwyl clywed gan eich benthyciwr.

Pryd ddechreuodd eich cytundeb cyllid modur?

Ydych chi wedi cwyno i'ch benthyciwr?


  • Os byddwch yn cwyno cyn 31 Awst 2026, dylech glywed gan eich benthyciwr erbyn 30 Tachwedd 2026 os oes arian yn ddyledus i chi, ac os felly, faint. Os ydych chi'n derbyn y cynnig, dylech dderbyn yr hyn sy'n ddyledus i chi o fewn mis.

    Os byddwch yn dewis peidio â chwyno, bydd benthycwyr yn cysylltu â chi erbyn 28 Chwefror 2027 os ydych chi'n gymwys. Yna bydd gennych 6 mis i ymateb i'ch benthyciwr i ddweud wrthynt eich bod am gael eich cynnwys yn y cynllun. Ar ôl i chi ateb, byddwch yn cael gwybod faint sy'n ddyledus i chi o fewn 3 mis. Dylai hyn ddigwydd erbyn 30 Tachwedd 2027 fan bellaf. Os ydych chi yn derbyn y cynnig, bydd gan eich benthyciwr 1 mis i'ch talu.

Ydych chi wedi cael ymateb terfynol gan eich benthyciwr?

Bydd ymateb terfynol naill ai'n cynnig iawndal i chi, datrysiad i'ch cwyn, neu byddant  yn gwrthod eich cwyn ac yn rhoi rhesymau dros wneud hynny.


  • Os ydych chi'n anhapus â'r ymateb terfynol a gewch gan eich benthyciwr, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol erbyn y dyddiad yn yr ymateb terfynol.

    Mae'r Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth annibynnol am ddim ar gyfer datrys anghydfod rhwng cwmnïau gwasanaethau ariannol a'u cwsmeriaid.


  • Dylech glywed gan eich benthyciwr erbyn 30 Tachwedd os oes arian yn ddyledus i chi, ac os felly, faint. Os ydych chi'n derbyn y cynnig, dylech dderbyn yr hyn sy'n ddyledus i chi o fewn mis.

Ydych chi wedi cwyno i'ch benthyciwr?


  • Os ydych chi'n cwyno cyn 30 Mehefin 2026, dylech glywed gan eich benthyciwr erbyn 30 Medi 2026 os oes arian yn ddyledus i chi, ac os felly, faint. Os ydych chi'n derbyn y cynnig, dylech dderbyn yr hyn sy'n ddyledus i chi o fewn mis.

    Os byddwch chi'n dewis peidio â chwyno, bydd benthycwyr yn cysylltu â chi erbyn 30 Rhagfyr 2026 os ydych chi'n gymwys. Yna bydd gennych 6 mis i ymateb i'ch benthyciwr i ddweud wrthynt eich bod am gael eich cynnwys yn y cynllun. Ar ôl i chi ateb, byddwch yn cael gwybod faint sy'n ddyledus i chi o fewn 3 mis. Dylai hyn ddigwydd erbyn 30 Medi 2027 fan bellaf. Os ydych chi yn derbyn y cynnig, bydd gan eich benthyciwr 1 mis i'ch talu.

Ydych chi wedi cael ymateb terfynol gan eich benthyciwr?

Bydd ymateb terfynol naill ai'n cynnig iawndal i chi, datrysiad i'ch cwyn, neu byddant  yn gwrthod eich cwyn ac yn rhoi rhesymau dros wneud hynny.


  • Os ydych chi'n anhapus â'r ymateb terfynol a gewch gan eich benthyciwr, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol erbyn y dyddiad yn yr ymateb terfynol.

    Mae'r Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth annibynnol am ddim ar gyfer datrys anghydfod rhwng cwmnïau gwasanaethau ariannol a'u cwsmeriaid.


  • Dylech glywed gan eich benthyciwr erbyn 30 Medi 2026 os oes arian yn ddyledus i chi, ac os felly, faint. Os ydych chi'n derbyn y cynnig, dylech dderbyn yr hyn sy'n ddyledus i chi o fewn mis.

I bwy mae hyn yn berthnasol

Gall hyn fod yn berthnasol i chi os:

  • Bu i chi ddefnyddio cyllid modur ar gyfer cerbyd modur, er enghraifft, car, beic modur, fan neu ‘campervan’ rhwng 6 Ebrill 2007 a 1 Tachwedd 2024 (mae hyn yn cynnwys cytundebau hurbwrcas (Hire Purchase), fel Pryniant Contract Personol ‘Personal Contract Purchase’), a
  • Ni ddwedwyd wrthych am drefniadau penodol rhwng y benthyciwr a'r brocer (pwy bynnag a drefnodd eich benthyciad).

Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys:

  • Trefniant comisiwn yn ôl disgresiwn (DCA), a oedd yn caniatáu i'r brocer addasu'r gyfradd llog a dalwyd gennych i gael comisiwn uwch.
  • Trefniant comisiwn uchel, lle roedd swm y comisiwn o leiaf 39% o gyfanswm cost credyd (y llog a'r taliadau am eich benthyciad) a 10% o'r benthyciad.
  • Cysylltiadau cytundebol. Dyma lle dim ond un benthyciwr a ddefnyddiodd eich brocer neu cafodd un benthyciwr yr hawl cyntaf i wrthod eich benthyciad. Fodd bynnag, ni fydd cysylltiadau cytundebol yn cael eu cynnwys pe bai cysylltiadau gweladwy rhwng y benthyciwr, y gwneuthurwr a'r deliwr masnachfraint. Er enghraifft, lle roeddent yn rhannu enw cyffredin neu debyg.

Mae rhai eithriadau. Bydd eich cytundeb yn cael ei ystyried yn deg, os: 

  • Oedd y comisiwn yn £120 neu lai ar gyfer cytundebau a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2014 a £150 neu lai o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae symiau comisiwn is na’r lefelau hynny yn annhebygol o fod wedi dylanwadu ar ymddygiad y brocer neu benderfyniad unigolyn.
  • Nid oeddech chi'n talu am unrhyw log.

Ni fydd ein cynllun yn berthnasol i chi os:

  • Oeddech chi yn lesu modur gyda Contract Hurio Personol (PCH).
  • Yw eich cwyn wedi cael ei ystyried yn flaenorol gan y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol neu wedi ei benderfynu gan y llys.
  • Rydych chi eisoes wedi derbyn iawndal.
  • Oedd eich cytundeb dros £25,000 cyn 6 Ebrill 2008 neu os oedd at ddibenion busnes.
  • Roedd gennych fenthyciad gwerth uchel.

Mewn nifer fach iawn o achosion, efallai y byddwch hefyd wedi rhedeg allan o amser i gael iawndal. Os yw hyn yn berthnasol i chi, bydd eich benthyciwr yn egluro pam. 
 

Faint y gallech ei gael

Rydym yn amcangyfrif bod 12.1 miliwn o gytundebau yn gymwys i gael iawndal. Bydd y rhai sy'n cael iawndal yn derbyn ar gyfartaledd  tua £830 fesul cytundeb, ond bydd hyn yn amrywio, gyda rhai pobl yn cael mwy a rhai yn cael llai.

Rydym wedi gosod rheolau ar gyfer sut mae cwmnïau yn asesu hawliadau ac yn cyfrifo unrhyw iawndal. Rydym yn goruchwylio cwmnïau'n agos i wneud yn siŵr eu bod yn eu dilyn.

Nid yw'r math hwn o fenthyca yn cael ei gwmpasu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol, felly os bydd eich benthyciwr yn mynd allan o fusnes, efallai na fyddwch yn cael unrhyw iawndal.

Defnyddio cwmnïau rheoli hawliadau (CMC)

Nid oes angen i chi ddefnyddio CMC neu gwmni cyfreithiol i gymryd rhan yn ein cynllun.

Gallwch gwyno nawr am ddim heb ddefnyddio un, ac nid oes angen i chi ddefnyddio CMC i ddarganfod a ydych chi'n gymwys. Os nad ydych chi'n siŵr pwy oedd eich benthyciwr, mae ffyrdd y gallwch chi wirio.

Os ydych chi'n cofrestru gyda CMC neu gwmni cyfreithiol, efallai y byddwch yn talu am wasanaeth nad oes ei angen arnoch, gan gynnwys hyd at 36% mewn ffioedd, gan gynnwys TAW, allan o unrhyw iawndal a dderbyniwch.

Darganfyddwch beth i'w ddisgwyl os byddwch chi'n penderfynu defnyddio CMC, gan gynnwys sut i wirio a yw CMC neu gwmni cyfreithiol wedi'i awdurdodi i'ch helpu.

Os ydych chi'n dewis defnyddio CMC neu gwmni cyfreithiol, gwnewch yn siŵr nad ydych eisoes wedi cofrestru gyda chwmni arall. Efallai eich bod wedi cofrestru heb sylweddoli hynny. Os ydych chi'n cofrestru gyda mwy nag un cwmni, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd i ddod â'r cytundeb i ben neu gael mwy nac un cynrychiolwr sy'n hawlio ffioedd llwyddiant. Gallai hefyd achosi oedi i chi dderbyn yr arian sy'n ddyledus i chi.

Eisoes wedi cofrestru gyda CMC neu gwmni cyfreithiol?

Os penderfynwch nad ydych bellach eisiau defnyddio CMC neu gwmni cyfreithiol, gallwch ddod â'ch cytundeb i ben. Ond efallai bydd ffi yn ddyledus. Dylai'r ffi fod yn rhesymol a dylai adlewyrchu'r gwaith y mae'r CMC neu'r cwmni cyfreithiol eisoes wedi'i wneud.

Mae'r rhan fwyaf o hawliadau cyllid modur yn y camau cychwynnol yn unig, felly dylai unrhyw ffioedd y gofynnir i chi eu talu gyd-fynd â'r gwaith a wnaed hyd yn hyn.

Dylech ddisgwyl i'r cwmni egluro’n glir y gwaith hwn a sut mae eu costau wedi'u cyfrifo. Os yw ffioedd yn ymddangos yn uchel neu os yw'r disgrifiad o'r gwaith yn amwys, gan ddefnyddio termau generig fel 'dilyniant achos' neu 'adolygiad ffeiliau' heb fanylion, dylech ofyn am ddadansoddiad ac i'r cwmni gyfiawnhau'r taliadau hynny.

Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd rydych chi wedi cael eich trin, gallwch gwyno am CMC neu gwmni cyfreithiol.

Sut i gwyno am gyllid modur

  1. 1

    Cysylltwch â'ch benthyciwr

    Chwiliwch ein rhestr o fenthycwyr i ddod o hyd i fanylion cyswllt perthnasol, llythyr cwyn neu e-bost templed, neu ddolen i ffurflen gwyno bwrpasol y benthyciwr.

    Archwilio rhestr benthycwyr 

     

    Os nad ydych chi'n siŵr pwy yw eich benthyciwr:

    • Gwiriwch hen ddatganiadau banc.
    • Cysylltwch â'r masnachwr lle cawsoch y car.
    • Ceisiwch wirio eich ffeil credyd gan y gallai eich benthyciwr gael ei restru yno. Gallwch hefyd geisio gwirio asiantaeth cyfeirio credyd Equifax's Car Finance Checker, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o gofnodion cyllid ceir yn ôl i 2007. Gallwch hefyd wirio'ch ffeil credyd am ddim trwy Experian a TransUnion. Darganfyddwch sut i gael mynediad at eich ffeil credyd am ddim o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
       
  2. 2

    Rydych chi'n cael ymateb gan eich benthyciwr

    Dylai eich benthyciwr anfon cydnabyddiaeth atoch. Os nad yw'n gwneud hynny, dylech ddilyn i fyny i wirio a yw wedi derbyn eich cwyn.

    Mae gan eich benthyciwr 3 mis i ymateb i'ch cwyn gan ddweud wrthych a oes iawndal a faint sy’n ddyledus i chi.  

    • Os dechreuodd eich cytundeb rhwng 6 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2014, a'ch bod yn cwyno cyn 31 Awst 2026, dylech glywed erbyn 30 Tachwedd 2026 fan bellaf.  
    • Os dechreuodd eich cytundeb rhwng 1 Ebrill 2014 a 1 Tachwedd 2024 a'ch bod wedi cwyno cyn 30 Mehefin 2026, dylech glywed erbyn 30 Medi 2026 fan bellaf. 
  3. 3

    Rydych chi'n ymateb i'ch benthyciwr

    Bydd gennych 1 mis i naill ai i dderbyn neu herio ymateb y benthyciwr.
     

    Os ydych chi'n anhapus ag ymateb eich benthyciwr

    Os yw eich benthyciwr yn anfon penderfyniad iawndal atoch a'ch bod yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch gwyno i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

    Mae'r Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth am ddim sy'n datrys cwynion rhwng defnyddwyr a busnesau sy'n darparu gwasanaethau ariannol.

    Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Ombwdsmon Ariannol erbyn y dyddiad a roddir yn llythyr penderfyniad iawndal eich benthyciwr, neu efallai na fyddant yn gallu helpu.

    Os byddwch yn mynd â'ch cwyn i'r Ombwdsmon Ariannol, byddant yn asesu eich hawliad i sicrhau bod rheolau'r cynllun wedi'u dilyn.

  4. 4

    Rydych chi'n derbyn taliad sy'n ddyledus i chi

    Ar ôl i chi ymateb i'ch benthyciwr i dderbyn y cynnig, bydd ganddynt 1 mis i dalu eich iawndal i chi.

    Efallai y bydd benthycwyr yn gofyn am rif eich cyfrif banc a'ch cod didoli i dalu iawndal i chi. Ond peidiwch â rhannu'r manylion hyn oni bai eich bod chi'n siŵr pwy rydych chi'n delio â nhw. A pheidiwch byth â rhannu eich rhif adnabod PIN a'ch cyfrineiriau gydag unrhyw un.

Mynd â'ch cwyn i'r llys

Gallwch hefyd ddwyn hawliad am eich comisiwn cyllid modur trwy'r llys. Os ydych chi'n ystyried yr opsiwn hwn, dylech feddwl am gael cyngor cyfreithiol annibynnol.

Mae cymryd rhan yn ein cynllun yn debygol o fod yn symlach ac yn cynnig mwy o sicrwydd na mynd â'ch hawliad i'r llys. Ar ôl i ffioedd cyfreithiol gael eu dynnu, gallech gael llai.

Amddiffyn eich hun rhag sgamiau

Rydym wedi derbyn adroddiadau o sgamwyr yn cysylltu â phobl ac yn esgus eu bod o fenthycwyr cyllid modur, gan gynnig iawndal ffug.

Er mwyn eich helpu i wirio eich bod yn delio â chwmni dilys, chwiliwch ein rhestr o fenthycwyr cyllid modur a gwnewch yn siŵr bod y manylion sydd gennych yn cyfateb i fanylion y cwmni gwirioneddol.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o sgamwyr sy'n esgus bod o'r FCA. Ni fyddwn byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian atom ac ni fyddwn byth yn gofyn am eich rhif adnabod PIN a'ch cyfrineiriau cyfrif banc.

Darganfyddwch sut i adnabod cyfathrebiadau FCA ffug.