Mae'n bosib bod arian yn ddyledus i chi pe baech wedi cael cyngor gwael i drosglwyddo allan o Gynllun Pensiwn British Steel (BSPS). Dewch i wybod sut mae hyn yn cael ei gywiro.
Rydyn ni'n gwneud i gynghorwyr ariannol wirio'r cyngor a roddwyd ganddynt oherwydd bod llawer o bobl a drosglwyddodd allan o'r cynllun pensiwn wedi cael y cyngor anghywir.
Os oeddech chi'n un ohonyn nhw, fe allai arian fod yn ddyledus i chi, a bydd rhaid i'r cynghorydd dalu'r arian a gollwyd gennych yn ôl. Rydyn ni'n galw hyn yn 'gynllun iawndal'.
Edrychwch am lythyr gan eich cynghorydd. Mae'n bwysig eich bod chi'n darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y maent yn gofyn amdano a gwneud yn sicr bod ganddynt fanylion cyfredol ar eich cyfer.
Darllenwch ein hadroddiad ar ganlyniadau iawndal yma
Eich helpu i gael yr ymddeoliad y buoch chi'n gweithio amdano
Rydym wedi gosod rheolau llym ynghylch sut y mae'n rhaid i gynghorwyr ariannol unioni pethau ar gyfer cyn-aelodau BSPS ac rydym yn monitro’r cynghorwyr yn agos i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Bydd cynghorwyr yn gweithio allan os ydych yn gymwys i gael iawndal fel rhan o’r cynllun. Darganfyddwch fwy am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen cyfrifo iawndal.
Nod unrhyw arian a gewch yw eich rhoi yn ôl yn y sefyllfa ariannol y byddech wedi bod ynddo ar ôl ymddeol pe baech wedi aros yn y BSPS.
Mae'r cwmni a roddodd y cyngor i chi drosglwyddo yn gyfrifol am unrhyw arian sy'n ddyledus i chi, hyd yn oed os nad yw'r cynghorydd bellach yn gweithio yno neu os ydych bellach gyda chynghorydd gwahanol.
Eich dewis chi yw sut i ddefnyddio’r arian i, ond dylech ystyried buddsoddi unrhyw daliad a dderbyniwch mewn pensiwn personol. Mae gan HelpwrArian wybodaeth bellach ac arweiniad di-duedd ar bensiynau, gan gynnwys eu gwasanaeth pensiynau i bobl dros 50 oed.
Llinell Gymorth BSPS: 0800 098 4100
Beth fydd yn digwydd a phryd
Cychwyn adolygu'r cyngor
Cael gwybod os oedd y cyngor yn anghywir
Cyfrifo faint allai fod yn ddyledus i chi
Gwneud cynnig o daliad i chi
Os yn cytuno, cael yr hyn sy’n ddyledus
Nid oes angen i chi ddefnyddio cwmni rheoli hawliadau na chyfreithiwr. Os gwnewch hynny, bydd yn rhaid i chi rannu unrhyw arian rydych chi'n ei gael gyda nhw.
Os nad yw eich cynghorydd bellach mewn busnes
Os yw eich cynghorydd wedi mynd allan o fusnes, dylech wneud hawliad i'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Mae gan yr FSCS restr o gwmnïau a roddodd gyngor BSPS nad ydynt bellach yn masnachu, ynghyd â manylion sut i wneud hawliad. Os yw'r FSCS yn canfod eich bod wedi derbyn cyngor gwael a bod arian yn ddyledus i chi, gallant eich digolledu hyd at £85,000.
Rydym wedi rhoi rheolau ar waith i leihau'r risg y bydd cynghorwyr yn mynd allan o fusnes yn ystod y cynllun. Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch chi'n derbyn y swm llawn o arian sy'n ddyledus i chi.
Pam y gallech gael eich eithrio
Mae yna lawer o resymau pam efallai na fyddwch yn cael eich cynnwys yn y cynllun iawndal.
Gallai fod oherwydd:
Cawsoch gyngor i beidio a trosglwyddo
Fe wnaethoch chi drosglwyddo allan o'r BSPS ar ôl cael eich cynghori i beidio â gwneud hynny ac mae eich cynghorydd wedi eich dynodi fel 'cleient oedd yn mynnu'. Rhaid i'ch cynghorydd wirio eu bod yn gywir i wneud hyn.
Os ydych yn anghytuno, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Ariannol ac efallai y bydd gennych hawl i iawndal o hyd.
Y dyddiad gwnaethoch drosglwyddo
Cawsoch gyngor i drosglwyddo ond nid oedd hyn rhwng 26 Mai 2016 a 29 Mawrth 2018.
Gwiriwch eich gwaith papur a ddylai ddangos y dyddiad y cawsoch eich cynghori.
Rydych wedi cwyno yn barod
Efallai eich bod eisoes wedi cwyno i'r Ombwdsmon Ariannol, neu bod eich cyngor wedi'i adolygu gan yr FSCS, neu eich bod wedi derbyn cynnig ar ôl gwneud cwyn drwy'r Ombwdsmon Ariannol neu i'ch cynghorydd, neu rydym eisoes wedi gofyn i'r cynghorydd adolygu eu cyngor i chi.
Wnaethoch chi ddim cwyno mewn pryd
Os gwnaethoch drosglwyddo allan cyn 24 Tachwedd 2016, efallai y byddwch wedi rhedeg allan o amser i gwyno am y cyngor a gawsoch. Os yw cyfraith yr Alban yn berthnasol i'ch cyngor - gallai hyn fod yn wir os ydych chi neu'ch cynghorydd wedi'u lleoli yn yr Alban - a'ch bod wedi trosglwyddo allan cyn 24 Tachwedd 2017, efallai y byddwch wedi rhedeg allan o amser i gwyno.
Yn y naill achos neu'r llall, mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael eich cynnwys gan y cynllun iawndal oni bai eich bod ond wedi dod yn ymwybodol (neu y dylech fod wedi dod yn ymwybodol) eich bod, o bosib wedi cael cyngor gwael ar ôl 24 Tachwedd 2019 neu ar ôl 24 Tachwedd 2017 os yw cyfraith yr Alban yn berthnasol.
Os ydych chi'n meddwl y dylech gael eich cynnwys yn y cynllun, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Ariannol.
Optio allan o'r cynllun iawndal
Gallwch ddewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun iawndal. Bydd eich cynghorydd yn gofyn hyn pan fyddant yn ysgrifennu atoch am y tro cyntaf.
Os byddwch chi'n optio allan, mae'n bwysig deall y gallai fod yn rhy hwyr i gael unrhyw arian yn ôl oherwydd bydd y terfynau amser arferol ar gyfer gwneud cwyn yn berthnasol.
O dan ein cynllun iawndal, rhaid i gynghorwyr adolygu'r cyngor a roddir i aelodau BSPS hyd yn oed os yw'r terfynau amser ar gyfer gwneud cwyn yn dod i ben ar ôl i'r cynllun ddechrau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae'ch cynghorydd yn ymdrin a'ch achos, neu unrhyw gwestiynau eraill am gael yr hyn sy'n ddyledus i chi, cysylltwch â'n llinell gymorth BSPS:
- Ffôn: 0800 098 4100
- E-bost: [email protected]
Neu dod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â ni.