Personau cymeradwy

Mae ‘person cymeradwy’ yn unigolyn yr ydym yn ei gymeradwyo i wneud un neu fwy gweithgaredd – yr hyn yr ydym yn ei alw’n ‘swyddogaethau rheoledig’ – ar gyfer cwmni awdurdodedig.

Mae’n rhaid i’r person hwn wybod a bodloni ein gofynion rheoledig, ynghyd â deall sut yr ydym yn eu gweithredu.

Mae’n rhaid iddynt:

  • fodloni gofynion ein prawf ‘ffit ac addas’ a dilyn ei egwyddorion
  • cydymffurfio â’r Datganiadau o Egwyddor a’r Cod Ymarfer (mae’r rhain yn egluro’r ymddygiad yr ydym yn ei ddisgwyl gan bobl yr ydym yn eu cymeradwyo)
  • adrodd unrhyw beth a allai effeithio ar eu haddasrwydd parhaus i ni a’r cwmni awdurdodedig (drwy Ffurflen D (PDF))

Dim ond pobl yr ydym yn fodlon eu bod yn ffit ac yn addas i ymgymryd â’r swyddogaeth(au) rheoledig y maent yn ymgeisio amdanynt y gallwn eu cymeradwyo. Darllenwch ragor am y prawf ‘ffit ac addas’.

Byddwn am gymeradwyo o leiaf un person mewn cwmni credyd defnyddwyr pan yw’n ymgeisio i gael ei awdurdodi.

Ni all unigolion ymgymryd â gweithgareddau rheoledig heb awdurdod hyd nes y byddant wedi’u hasesu i fod yn gymwys.

Mae’n debyg y bydd angen i unrhyw un sy’n ymdrin â chwsmeriaid gael eu cymeradwyo. Bydd y rhan fwyaf o gynghorwyr (e.e. cynghorwyr ariannol a manwerthu, rheolwyr buddsoddi) angen cymeradwyaeth. Nid oes angen i’r rhan fwyaf o ddarparwyr cyngor dyledion nid-er-elw a rhai unig fasnachwyr gael person cymeradwy.

Cwmnïau credyd defnyddwyr

Hefyd, mae gennym wybodaeth am bersonau cymeradwy ar gyfer cwmnïau credyd defnyddwyr.

Page updates

: Editorial amendment page updated as part of website refresh