CP23/29: Mynediad at arian parod

Rydym yn gosod ein cynigion ar gyfer sut rydym yn cefnogi mynediad at arian parod mewn byd cynyddol ddigidol. Darganfod mwy ac ymateb i’r papur ymgynghori.

CP23/29

Atodiad Technegol i Mynediad at Arian Parod: Papur Ymgynghori

Pam rydym yn ymgynghori

Rydym yn cynnig trefn reoleiddio newydd, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu a ddynodwyd gan y Llywodraeth asesu a llenwi bylchau, neu fylchau posibl, mewn darpariaeth mynediad arian parod sy'n effeithio'n sylweddol ar ddefnyddwyr a busnesau.

Rydym yn cynnig hyn oherwydd bod y Senedd wedi gofyn i ni 'geisio sicrhau darpariaeth resymol' o wasanaethau adnau a chodi arian parod ar gyfer cyfrifon cyfredol personol a busnes ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys mynediad at arian papur a darnau arian, a mynediad sy'n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr sydd â chyfrifon cyfredol personol.

Ar gyfer pwy mae hyn

Mae'r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i:

  • cwmnïau sy'n darparu cyfrifon cyfredol i gwsmeriaid personol neu fusnes ac sy'n rhagweld cael eu dynodi gan y Trysorlys o dan Ran 8B o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (FSMA)
  • busnesau sy'n rhagweld cael eu dynodi gan y Trysorlys o dan Ran 8B o'r FSMA fel corff cydlynu
  • busnesau sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau mynediad arian parod a gweithredu cyfleusterau mynediad arian parod, gan gynnwys Swyddfa'r Post a gweithredwyr systemau talu y darperir arian yn ôl drwyddynt, gan y gallent fod yn destun ceisiadau newydd am wybodaeth 

Rydym hefyd eisiau clywed gan: 

  • grwpiau neu'r rhai sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr a busnesau bach a chanolig
  • cwsmeriaid sy'n dibynnu ar wasanaethau mynediad arian parod
  • cwmnïau eraill sy'n darparu cyfrifon cyfredol i gwsmeriaid personol neu fusnes

Y camau nesaf

Mae’r ymgynghoriad yma nawr ar gau.

Rydym yn disgwyl cwblhau ein rheolau yn Ch3 2024, ochr yn ochr â chyhoeddi ein Datganiad Polisi.

Cefndir

Rydym wedi gweld arloesi a newid sylweddol yn y ffordd y mae defnyddwyr yn talu, ac mae busnesau'n derbyn taliadau. Mae hyn wedi cael ei yrru gan arloesi mewn taliadau a newidiadau mewn ymddygiad cwsmeriaid. 

Er y gall yr ystod gynyddol o opsiynau gwasanaethau a thaliadau digidol wneud bywyd yn haws, i lawer, mae'r gallu i godi arian yn dal yn hanfodol. Mae arian parod yn parhau i fod yn arbennig o bwysig i ddefnyddwyr sydd â nodweddion bregus a llawer o fusnesau bach. 

Felly, mae'n bwysig ein bod yn rheoli cyflymder ac effaith y newid, ac yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael cymorth priodol gan eu banc.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Costau i ddefnyddwyr a busnesau bach a chanolig o golli mynediad at wasanaethau arian parod a bancio personol (Adroddiad Naratif)

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil a gomisiynwyd gan yr FCA i London Economics i ddarparu amcangyfrifon meintiol o'r costau sy'n gysylltiedig â cholli mynediad at wasanaethau arian parod a bancio personol yn y lleoliad y maent fel arfer yn eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr a busnesau bach a chanolig sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn.

Costau i ddefnyddwyr a busnesau bach a chanolig o golli mynediad at wasanaethau arian parod a bancio personol (Adroddiad technegol)

Mae'r adroddiad technegol hwn yn cyflwyno'r fethodoleg a'r set lawn o amcangyfrifon meintiol o ymchwil a gomisiynwyd gan yr FCA i London Economics i ddarparu amcangyfrifon meintiol o'r costau sy'n gysylltiedig â cholli mynediad at wasanaethau arian parod a bancio personol yn y lleoliad y maent fel arfer yn eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr a busnesau bach a chanolig sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn. Cyflwynir canfyddiadau'r ymchwil yn yr adroddiad naratif cysylltiedig.

Page updates

: Information changed Mae’r ymgynghoriad yma nawr ar gau.