Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn datgelu profiadau ariannol pobl yn y DU: Mae mwy na hanner pobl Cymru mewn sefyllfa a allai fod yn fregus

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (yr FCA) wedi cyhoeddi’r dadansoddiad diweddaraf o’i arolwg Financial Lives heddiw. Mae adroddiad heddiw’n canolbwyntio ar sefyllfa ariannol pobl ar hyd a lled y DU ac yn tynnu sylw at ble yn y DU y gallai pobl fod mewn sefyllfa fregus.

Mae arolwg heddiw’n gweld bod 55% o bobl yng Nghymru mewn sefyllfa a allai fod yn fregus, o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 50%.

Financial Lives yw arolwg yr Awdurdod o bron i 13,000 o oedolion, a dyma’r arolwg olrhain mwyaf yn y DU sy’n edrych yn benodol ar ddefnyddwyr a sut maen nhw’n defnyddio gwasanaethau ariannol.

Mae’r adroddiad yn dangos nifer o wahaniaethau ym mhrofiadau pobl mewn gwahanol rannau o’r DU, gan gynnwys Cymru, o ran gwasanaethau ariannol, er enghraifft:

  • Mae’r ddyled gyfartalog ar forgais i bobl sydd â morgais yn is yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol (£104,000 o gymharu â £126,000 ar gyfartaledd yn y DU).
  • Mae llai o bobl yng Nghymru yn defnyddio canghennau banc yn rheolaidd. Mae 33% o oedolion yng Nghymru’n defnyddio canghennau banc yn rheolaidd o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 40%. Mae mwy a mwy o ddefnyddwyr canghennau’n disgrifio mynediad i’w cangen fel ‘anghyfleus’ (17% o gymharu â chyfartaledd y DU sef 13%). Fodd bynnag, mae cyfran uwch o oedolion yng Nghymru’n defnyddio bancio ar-lein (76% o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 72%) a bancio dros y ffôn (24% o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 20%).
  • Mae gan gyfran uwch o oedolion yng Nghymru fenthyciadau personol o gymharu â rhannau eraill o’r DU, ac mae cyfran uwch na’r cyfartaledd yn defnyddio credyd catalog i fenthyca. Mae gan 16% o oedolion yng Nghymru fenthyciad personol o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 12% ac mae 9% yn benthyca drwy ddefnyddio credyd catalog, o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 5%.
  • Mae 10% o oedolion yng Nghymru mewn trafferthion ariannol, ac mae gan 17% orddyled. Mae’r ffigurau hyn yn debyg i gyfartaledd y DU.
  • Ar gyfartaledd, mae gan oedolion yng Nghymru ddyledion diwarant o £3,500. Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd o £3,320 o ddyled sydd gan oedolion yng ngweddill y DU.

Dywedodd Andrew Bailey, Prif Weithredwr yr FCA: 'Mae’r arolwg hwn yn dangos pa mor wahanol yw profiadau defnyddwyr o wasanaethau ariannol ledled y wlad. Mae hynny’n bwysig i ni, wrth i ni lunio polisi gwasanaethau ariannol. Ond mae hefyd yn bwysig i gwmnïau, wrth iddyn nhw benderfynu ar y ffordd orau i wasanaethu eu cwsmeriaid.'

Mae’r FCA wedi rhyddhau tablau data wedi’i bwysoli sy’n rhoi manylion am ganfyddiadau'r arolwg er mwyn i bobl sy’n gwneud penderfyniadau’n lleol a sefydliadau eraill allu defnyddio’r wybodaeth i ystyried beth gallan nhw ei wneud i helpu i gefnogi’r bobl a all fod yn cael anawsterau ariannol. Roedd adroddiad blaenorol Financial Lives yr FCA yn adrodd y stori ariannol ar gyfer chwe gwahanol grŵp oedran er mwyn dangos y prif themâu yn ystod pob cam o fywyd.

Notes to editors

  1. Darllenwch adroddiad yr FCA ar gyfer Mehefin 2018, The financial lives of consumers across the UK
  2. Darllenwch adroddiad Financial Lives 2017, Understanding the financial lives of UK adults
  3. Mae sefyllfa a allai fod yn fregus yn cyfeirio at yr oedolion hynny a allai ddioddef yn annheg pe bai pethau’n mynd o chwith oherwydd bod ganddyn nhw lai o wytnwch ariannol. Mae hefyd yn cynnwys y rheini a allai fod yn llai galluog i ymwneud â’u cyllid neu â gwasanaethau ariannol. Gall y rhesymau dros hyn amrywio o ddioddef digwyddiad diweddar mewn bywyd (fel dileu swydd, profedigaeth neu ysgariad), gallu ariannol isel, neu broblem iechyd sy’n effeithio llawer ar weithgareddau unigolyn o ddydd i ddydd. Nid yw’r ffaith bod unigolyn yn cael ei ddiffinio fel rhywun sydd mewn sefyllfa a allai fod yn fregus yn golygu y bydd yn dioddef niwed o anghenraid.
  4. Mae ‘mewn trafferthion’ yn cyfeirio at oedolion sydd leiaf cydnerth yn ariannol, gan eu bod eisoes wedi peidio â thalu bil domestig neu fodloni ymrwymiadau credyd mewn o leiaf tri o’r chwe mis diwethaf.
  5. Diffinnir gorddyled fel baich sylweddol o ran parhau i dalu biliau domestig ac ymrwymiadau credyd, neu fethu unrhyw ymrwymiadau credyd a/neu fethu â thalu unrhyw filiau domestig mewn unrhyw dri o’r chwe mis diwethaf.
  6. Ar 1 Ebrill 2013, daeth yr FCA yn gyfrifol am oruchwylio ymddygiad yr holl gwmnïau ariannol a reoleiddir a goruchwylio darbodus y rheini nad ydynt yn cael eu goruchwylio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA).
  7. Amcan strategol cyffredinol yr FCA yw sicrhau bod y marchnadoedd perthnasol yn gweithredu’n dda. Mae ganddo dri amcan gweithredol i gefnogi hyn: sicrhau lefel briodol o warchodaeth i ddefnyddwyr; gwarchod a gwella uniondeb system ariannol y DU; a hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol er budd defnyddwyr.
  8. Rhagor o wybodaeth am yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.