Mae ein System Anfonebu Ar-lein (OIS) yn caniatáu ichi weld eich anfonebau, talu ffioedd a mwy. OIS yw'r ffordd fwyaf effeithlon ac amgylcheddol gyfeillgar i ni gyfathrebu â chwmnïau. Darganfyddwch sut i gofrestru a mewngofnodi.
Mae My FCA yn borth i gwmnïau gael mynediad at Connect, Anfonebu ar-lein a RegData
Mae modd cael mynediad uniongyrchol at anfonebau wedi'u trefnu, ffurflenni rheoleiddiol a thasgau tystiolaeth eich cwmni.
Mae gan bob tasg ddyddiad a statws fel y gallwch weld beth sydd angen ei gwblhau a phryd.
Mae dolen mewngofnodi i My FCA wedi’i gynnwys yn eich negeseuon e-bost atgoffa ar gyfer tasgau anfonebau a chredyd wedi'u trefnu yn y System Anfonebu ar-lein.
Ar gyfer beth allwch chi ddefnyddio OIS
Mae posib:
- Talu eich ffioedd blynyddol
- Gweld ac argraffu eich anfonebau, nodiadau credyd, datganiadau a thaliadau
- Gosod a rheoli cyfarwyddyd debyd uniongyrchol
- Cyflwyno data tariff ffioedd
- Derbyn hysbysiadau e-bost pan fydd eich anfoneb wedi'i greu
- Gofyn am gopi PDF o'ch anfoneb
- Defnyddio gwasanaethau eraill, er enghraifft, cofrestru defnyddwyr ychwanegol
Sut i fewngofnodi
Mewngofnodwch i My FCA gan ddefnyddio manylion eich System Anfonebu Ar-lein presennol i gael mynediad at dasgau.
Pryd y gallwch ddefnyddio My FCA i gael mynediad at OIS:
Dydd Llun i ddydd Gwener 24 awr y dydd
Dydd Sadwrn o 12am i 6pm
Dydd Sul o 6am i 12am
Rydym yn argymell defnyddio Google Chrome i gael mynediad at My FCA.
Sut i gofrestru ar gyfer OIS
Darganfyddwch sut i gofrestru ar gyfer OIS.
Fe welwch ganllaw i'ch tywys trwy'r camau dan sylw yn ogystal â gwybodaeth ar ofyn am god dilysu unigryw.
Canllawiau a chymorth
Gallwch gyfeirio at anfonebu ar-lein:
- Canllaw defnyddiwr (PDF) am help gyda defnyddio OIS
- Canllaw i faterion neidlen (pop up) (PDF)
- Telerau ac amodau My FCA
Ar ôl i chi gael mynediad at un cwmni, gallwch ychwanegu cwmnïau ychwanegol gan ddefnyddio'r dudalen 'Rheoli Cwmnïau'. Bydd angen cod dilysu unigryw 12 nod y cwmni newydd arnoch i gwblhau'r broses hon, y gall defnyddwyr presennol ofyn amdano o hafan OIS. Mae'n cael ei e-bostio atynt ar unwaith. Bydd angen i bob defnyddiwr ychwanegol hunan-gofrestru i gael mynediad i'r cais ar-lein.
Os nad yw'ch cwmni bellach eisiau defnyddio'r OIS, gallwch gau eich mynediad gan ddefnyddio'r tudalennau 'Rheoli Cwmnïau a Chysylltiadau' neu anfon neges at [email protected].
Os oes gennych gwestiwn am eich anfoneb neu wneud taliad, neu os oes angen help arnoch, anfonwch e-bost at [email protected].
Negeseuon e-bost gennym ni
Efallai y byddwn yn anfon negeseuon e-bost atoch o unrhyw un o'r cyfeiriadau hyn – galluogwch nhw fel nad yw ein negeseuon e-bost yn mynd i’ch ffolder sothach/sbam:
Cwmnïau sydd newydd eu hawdurdodi
Mae anfoneb ffioedd ac ardollau rheoleiddio cyntaf eich cwmni yn cwmpasu'r mis y cafodd eich cwmni ei awdurdodi hyd at 31 Mawrth (y flwyddyn ffioedd cyfnodol yw 1 Ebrill i 31 Mawrth).
Byddwch yn cael gostyngiad yn dibynnu ar ba fis roedd eich cwmni wedi awdurdodi (gweler isod) ac rydym yn codi rhai ffioedd ar ran sefydliadau eraill.
Talu eich anfoneb ar-lein
Rydym yn derbyn taliadau gyda chardiau debyd, credyd, Maestro neu American Express.
Gallwch hefyd sefydlu mandad debyd uniongyrchol ar-lein. Yna byddwn yn casglu eich ffioedd yn awtomatig yn llawn ar, neu yn fuan ar ôl dyddiad dyledus yr anfoneb.
Herio anfoneb
Os byddwch yn cyflwyno her drwy'r system, byddwch yn derbyn hysbysiad yn cadarnhau ein bwriad i ymateb o fewn 12 diwrnod (yn unol â'n safon lefel gwasanaeth y cytunwyd arno).
Os yw'ch her yn dangos fel 'adolygiad arfaethedig', mae hyn yn golygu nad yw’r sawl sy’n ymdrin â’r cyfrif wedi ymateb eto. Os oes angen diweddariad arnoch, anfonwch e-bost [email protected].
Trwy herio anfoneb cyn gynted ag y byddwch chi'n ei dderbyn, gall y sawl sydd yn trin eich cyfrif ymateb cyn dyddiad dyledus yr anfoneb. Os byddwch chi'n codi'r anghydfod ychydig cyn i'r anfoneb fod yn ddyledus, bydd yn rhaid i chi dalu'r anfoneb yn llawn (ond gallwn eich ad-dalu yn ddiweddarach os yw'r anfoneb yn anghywir).
Os nad oes modd datrys anghydfod, bydd ein pwyllgor credyd yn ei ystyried i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyson â'n rheolau ffioedd. Os hoffech apelio yn erbyn penderfyniad, anfonwch e-bost atom a'i nodi ar gyfer sylw'r Rheolwr, Gweithrediadau Refeniw.
Gallwch wneud cwyn ffurfiol drwy ein cynllun cwynion.
Gweld anfonebau a dalwyd cyn 31 Mawrth 2021
Ar y system, ni allwch weld na lawrlwytho anfonebau a dalwyd cyn 31 Mawrth 2021. Fodd bynnag, gallwch weld neu lawrlwytho datganiad cyfrif 3 blynedd o'r dudalen 'Gweithgaredd Cyfrif', sy'n crynhoi'r holl drafodion ffioedd a thaliadau hyd at 31 Mawrth 2021.