Cofrestr Gwasanaethau Ariannol

Mae’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yn gofnod cyhoeddus o gwmnïau, unigolion a chyrff eraill sy’n cael eu rheoleiddio gan y PRA a/neu’r FCA, neu sydd wedi cael eu rheoleiddio ganddynt.

Gwneud y mwyaf o’r Gofrestr

Gallwch chwilio’r Gofrestr am wybodaeth am gwmni, unigolyn neu gynnyrch gwasanaethau ariannol drwy gofnodi ei enw, y rhif cyfeirnod (FRN) neu god post. Yn ogystal, gallwch chwilio am gyfnewidiadau buddsoddi penodol.

Mae’r Gofrestr yn dangos a yw cwmni yr ydych yn ei ddefnyddio, neu’n bwriadu ei ddefnyddio, wedi’i awdurdodi neu ei gofrestru gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (dolen allanol) (PRA) a/neu’r FCA, neu a yw wedi’i eithrio. Yn ogystal, gallwch ddarganfod a oes gan gwmni credyd defnyddwyr ganiatâd dros dro.

Mae’r wybodaeth arall y gallwch ei gweld yn cynnwys:

Yn ogystal, gallwch chwilio drwy’r Gofrestr am unigolion sy’n gweithio mewn cwmnïau awdurdodedig ac ymgymryd â thasgau pwysig yr ydym wedi’u ‘cymeradwyo’.

Chwilio’r Gofrestr

Cwmnïau anawdurdodedig

Mae’r cwmnïau yr ydym wedi cael gwybod eu bod yn darparu cynnyrch neu wasanaethau sydd wedi’u rheoleiddio heb yr awdurdod cywir – neu sy’n rhedeg sgams yn fwriadol – bellach wedi’u cynnwys ar y Gofrestr gyda rhybuddion blaenllaw.

Mae gwybodaeth arall am gwmnïau anawdurdodedig yn cynnwys y gwahanol fanylion y maent yn eu rhoi allan ac a ydynt yn hawlio eu bod gan gwmnïau gwirionedd, awdurdodedig a hynny ar gam.

Os ydych yn ymdrin â chwmni (neu unigolyn) nad yw wedi’i reoleiddio mae’n bosib na fydd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol neu’r FSCS yn berthnasol i chi.

Derbyn dyfyniadau data

Os hoffech ddefnyddio data o’r Gofrestr, gallwch naill ai brynu tanysgrifiad rheolaidd, neu ‘ddarn’ data unwaith ac am byth. Rydym yn cynnig y data naill ai ar CD neu ar ffurfiau sy’n seiliedig ar y we.

Darllen mwy am ein gwasanaeth dyfyniadau data.

Porwyr gwe a gefnogir

Er mwyn cael mynediad i’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol o fis Mawrth 2018, bydd arnoch angen fersiwn cyfredol neu ddiweddar o borwyr megis:

Gwybodaeth bellach

Mae’r awdurdodaeth rheoleiddio ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yn dod o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (FSMA), Payment Services Regulations 2009, Electronic Money Regulations 2011 a’r Money Laundering, Terrorist Financing and Transfer of Funds (Information on the Payer) Regulations 2017.

Os oes gennych unrhyw broblemau neu gwestiynau am ddefnyddio’r Gofrestr dylech gysylltu â ni. Gall defnyddwyr y diwydiant anfon e-bost i’r tîm Cofrestru hefyd.

Page updates

: Editorial amendment page updated as part of website refresh