Rhestr Rhybuddion FCA o gwmnïau anawdurdodedig

Edrychwch ar ein Rhestr Rhybuddion i ddod o hyd i fanylion cwmnïau ac unigolion anawdurdodedig yr ydym yn ymwybodol ohonynt, sydd yn gweithredu heb ganiatâd yn y DU.

First published: 20/03/2023 Last updated: 18/10/2023 See all updates

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gwmnïau ariannol yn y DU gael eu hawdurdodi neu eu cofrestru trwy ein gwasanaeth ni. Yn anffodus, mae nifer o gwmnïau sy’n dal i weithio heb ein hawdurdod.

Gwiriwch ein Cofrestr Gwasanaethau Ariannol i ddarganfod os yw’r cwmni wedi eu awdurdodi. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i gwmni ar y Gofrestr cysylltwch gyda’n Llinell Gymorth Defnyddwyr ar 0800 111 6768.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn delio â chwmnïau awdurdodedig yn unig. Os byddwch yn delio â chwmni anawdurdodedig, ni fyddwch yn cael eich diogelu gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol na’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS) os ydych yn cael trafferthion.

Chwiliwch ar y Rhestr Rybuddion

Mae ein Rhestr Rybudd yn dangos y cwmnïau yr ydym yn pryderu eu bod yn gweithredu heb ein caniatâd.

Rydym yn ychwanegu cwmnïau at y rhestr hon cyn gynted â phosibl. Ond nad yw cwmni ar y rhestr, efallai ei fod yn dal heb awdurdod neu fod yn sgam. Mae cwmnïau anawdurdodedig yn aml yn newid eu henwau, ac efallai nad ydym yn ymwybodol o hyn eto.

I ddefnyddio’r rhestr, gallwch:

  • Chwiliwch am gwmni anawdurdodedig gan ddefnyddio’r bar chwilio
  • Hidlo canlyniadau yn ôl llythyren gyntaf y cwmni
  • Cliciwch ar y golofn ‘Enw’ i drefnu’r cwmnïau o A i Z

Os ydych yn ymwneud â chwmni tramor, gwiriwch y rhestr o rybuddion gan reoleiddwyr tramor.

Tanysgrifiwch i RSS i dderbyn diweddariadau cyson

 News Warning Feed RSS Ffrwd rhybuddion RSS

Displaying 1 - 25 of 168
Name Date added Date updated
VELOCITY VISTAFX (new)
Vourteige / vourteige.com/Home (updated)
Virtual Wealth Exchange / virtualwealthexchange.co (new)
VECOGLOBAL / VECOGLOBALS (updated)
VentureXchange (updated)
VOLSTICEFUNDPRO (new)
VALEFINANCE (new)
VISIONFX (new)
Vomarkets/ https://Vomarkets.com (updated)
VC Spectra / vcspectra.io (new)
VERSE CAPITAL (updated)
valuegain.uk (new)
VERTEX MARKET (new)
VAYEKRAV.ORG (new)
Vixcoin (new)
VENTURES-FUNDS (updated)
VENUS MINING (new)
Vertical International (new)
VIP Crypto / Cryptonix Team (updated)
Vitality Bank Corporation (new)
VINTAGE GLOBAL INVESTMENT (new)
vaultexfx.com (new)
VisioneasyFXpro (new)
VIP Dex Trading Solutions (new)
visioncapitalltd.com (Clone of FCA Authorised Firm) (new)

Sut i amddiffyn eich hun

Byddwch yn wyliadwrus o sgamwyr sydd yn ceisio dweud eu bod yn rhan o gwmnïau awdurdodedig. Gall rhain fod yn gwmnïau clôn (fersiwn ffug o gwmni dilys). Os oes gwasanaethau ariannol yn gwneud galwad annisgwyl i chi, ffoniwch nhw yn ôl gan ddefnyddio’r rhif ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol bob amser.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam, rhowch wybod i ni ar-lein. Rydym yn ymchwilio i bob adroddiad yr ydym yn eu dderbyn, ac fe allai hefyd helpu i amddiffyn eraill rhag twyllwyr.

Dewch i ddysgu mwy am sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau.

Page updates

: Editorial amendment Small changes under 'Chwiliwch ar y Rhestr Rybuddion'