Defnyddiwch Gabriel i wneud y canlynol:
- cyflwyno data rheoleiddiol - gweler dulliau cyflwyno
- gweld atodlen wedi'i deilwra o’ch gofynion adrodd
- gweld eich cyflwyniadau yn yr un lle
- argraffu eitemau data
Mewngofnodi
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i dudalen ‘croeso’ Gabriel. O’r fan hyn, gallwch symud ymlaen i’r sgrin mewngofnodi.
Hyfforddiant ar-lein
Yn ddiweddar rydym wedi diweddaru pecyn hyfforddiant Gabriel ar-lein. Rydym wedi’i gwneud yn llawer haws i lywio ac wedi cyflwyno rhai pynciau newydd gan gynnwys:
- sut i gofrestru ar gyfer mynediad i Gabriel
- cyflawni swyddogaethau gweinyddol y system
- cyflwyno Data Gwerthiant Cynnyrch
Oriau gweithredu
Dydd Llun i ddydd Gwener: 7am i 10pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 8am i 5pm
Darperir cymorth gan y ganolfan gyswllt, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm, ac eithrio Gwyliau Banc.