Ynglŷn â'r FCA

Rydym yn rheoleiddio ymddygiad bron i 45,000 o fusnesau yn y DU i sicrhau bod marchnadoedd ariannol yn gweithio'n dda. Dod i wybod mwy am ein rôl.

Ein rôl

Rhaid i farchnadoedd ariannol fod yn onest, yn gystadleuol ac yn deg fel bod defnyddwyr yn cael bargen deg. Rydym yn gweithio i sicrhau bod y marchnadoedd hyn yn gweithio'n dda i unigolion, i fusnesau, ac ar gyfer twf a chystadleurwydd economi'r DU.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • reoleiddio ymddygiad bron i 45,000 o fusnesau
  • goruchwylio tua 44,000 o gwmnïau'n ddarbodus
  • gosod safonau penodol ar gyfer tua 17,000 o gwmnïau

Rydym yn canolbwyntio ar leihau ac atal niwed difrifol, gosod safonau uwch a hyrwyddo cystadleuaeth a newid cadarnhaol.

Cawsom ein sefydlu ar 1 Ebrill 2013, gan gymryd drosodd ymddygiad a rheoleiddio darbodus perthnasol gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).

Rydym yn gweithio ar draws y DU gyda phrif swyddfa yn Llundain, swyddfeydd yn Leeds a Chaeredin a chydweithwyr yn Belfast a Chaerdydd.

Pam rydyn ni gwneud hyn

Mae gwasanaethau ariannol yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau pawb yn y DU, o ISAs iau i bensiynau, debydau uniongyrchol i gardiau credyd, benthyciadau i fuddsoddiadau.

Mae pa mor dda y mae marchnadoedd ariannol yn gweithio yn cael effaith sylfaenol arnom ni i gyd.

Mae gwasanaethau ariannol y DU yn cyflogi dros 1.1 miliwn o bobl ac, ochr yn ochr â gwasanaethau proffesiynol cysylltiedig, maent yn cyfrannu amcangyfrif o £100 biliwn mewn treth y flwyddyn.

Yn seiliedig ar ein gwaith polisi a gorfodaeth, rydym yn amcangyfrif ein bod yn ychwanegu gwerth o leiaf £11 o fuddion i ddefnyddwyr a busnesau bach am bob £1 a wariant.

Os yw marchnadoedd y DU yn gweithio'n dda, yn gystadleuol ac yn deg, maent o fudd i gwsmeriaid, staff a chyfranddalwyr, ac yn cynnal hyder yn y DU fel canolfan ariannol fyd-eang.

Sut rydyn ni’n gweithredu

Ein nod strategol yw sicrhau bod marchnadoedd perthnasol yn gweithio'n dda. Rydym wedi amlinellu sut y byddwn yn cyflawni hyn yn ein Strategaeth 3 blynedd.

Ein hamcanion gweithredol yw:

Ers 2023, mae gennym amcan eilaidd i hwyluso cystadleurwydd a thwf rhyngwladol economi'r DU yn y tymor canolig i'r tymor hir (yn amodol ar gyd-fynd â safonau rhyngwladol).

Rydym yn gorff cyhoeddus annibynnol sy'n cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan y ffioedd rydym yn eu codi ar gwmnïau a gaiff eu rheoleiddio. Diffinnir ein rôl  a'n hamcanion yn bennaf gan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (FSMA) ac rydym yn atebol i'r Trysorlys, sy'n gyfrifol am system ariannol y DU, ac i'r Senedd.

Er mwyn hyrwyddo ein hamcanion, rydym yn gweithio gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA), rheoleiddiwr darbodus tua 1,500 o fanciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, yswirwyr a chwmnïau buddsoddi mawr. Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â  rheoleiddwyr eraill, sefydliadau'r DU ac adrannau'r llywodraeth, ac yn ymgysylltu'n rheolaidd ag ystod eang o gymheiriaid a rhanddeiliaid rhyngwladol.

Mae gennym gylch gwaith mawr a chynyddol ac mae ein hadroddiad perimedr blynyddol yn nodi'r hyn rydyn ni’n ei reoleiddio a ddim yn ei reoleiddio.

Rydym yn ystyried egwyddorion rheoleiddio da wrth gyflawni ein gwaith. Rydym hefyd yn ystyried pwysigrwydd mynd i'r afael â throseddau ariannol, gan ystyried natur, maint a chymhlethdod cwmnïau.

Sut rydyn ni’n rheoleiddio

Rydym yn gweithio tuag at ein hamcanion mewn sawl ffordd.

  • Rydym yn gwneud rheolau newydd ac yn cyhoeddi canllawiau a safonau.
  • Rydym yn gweithio i ganfod niwed ar draws y farchnad a rhoi atebion ar waith trwy astudiaethau marchnad.
  • Rydym yn awdurdodi neu'n cofrestru cwmnïau ariannol ac unigolion.

Rydym yn defnyddio dull cymesur, sy'n seiliedig ar risg, o reoleiddio. Rydym yn blaenoriaethu'r ardaloedd a'r cwmnïau sy'n peri risg uwch i'n hamcanion, gan ystyried maint, cymhlethdod ac effaith bosibl ar wahanol fathau o ddefnyddwyr.

Rydym hefyd yn gwneud y defnydd gorau posibl o ddata a thechnoleg. Mae hyn yn sicrhau bod ein deallusrwydd yn fwy cydgysylltiedig, a gallwn symud yn gyflymach i adnabod a gweithredu yn erbyn cwmnïau ac unigolion sy'n fwy tebygol o achosi niwed.
 

Awdurdodi a chofrestru

Rhaid i gwmnïau ac unigolion gael eu hawdurdodi neu eu cofrestru gennym ni i gyflawni rhai gweithgareddau.

Cyn i ni roi awdurdodiad, rhaid i gwmnïau ddangos eu bod yn bodloni ystod o ofynion. Yna rydym yn goruchwylio'r cwmnïau hyn i sicrhau eu bod yn parhau i fodloni ein safonau a'n rheolau ar ôl iddynt gael eu hawdurdodi.

Mae ein Dull Goruchwylio (PDF) yn esbonio'r dull a gymerwn wrth oruchwylio gwahanol fathau o weithgareddau a reoleiddir. Er enghraifft, mae niwed yn amlygu ei hun mewn gwahanol ffyrdd ar draws marchnadoedd manwerthu a chyfanwerthu ac rydym yn llunio ein blaenoriaethau yn unol â hynny.

Os yw cwmnïau ac unigolion yn methu â bodloni ein safonau, mae gennym ystod o bwerau gorfodaeth y gallwn eu defnyddio, gan gynnwys dwyn erlyniadau troseddol i fynd i'r afael â throseddau ariannol.

Sut rydyn ni'n mesur ein perfformiad

Bob blwyddyn, rydym yn amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion yn ein Cynllun Busnes ac rydym yn disgrifio'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn ein Hadroddiad Blynyddol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi rhestr o ganlyniadau a metrigau aml-flwyddyn a  ddefnyddiwn i fesur cynnydd ac yr ydym yn dal ein hunain yn atebol yn eu herbyn.

Rydym yn mesur ein perfformiad gan ddefnyddio metrigau gwasanaeth gweithredu (a elwid gynt yn safonau gwasanaeth). Rydym yn cyhoeddi'r rhain fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn sefydliad tryloyw.

Rydym hefyd yn cyhoeddi metrigau gwasanaeth gweithredu awdurdodaeth chwarterol i fod yn dryloyw ynghylch ein perfformiad.

Page updates

: Information added on how we advance both our primary and secondary objectives. And figures updated.
: Editorial amendment page updated as part of website refresh